Aha, ydi o Rhian? Rhaid i mi ddysgu edrych yn GPC cyn holi!
Roeddwn i'n rhyw feddwl am y gair 'sgrownjar', ac yn meddwl a fyddai'n addas i'w ddefnyddio mewn adroddiad a gaiff ei ddarllen ledled Cymru, neu oedd o'n rhy Ogleddol... Dyna faswn i yn ei ddweud ar lafar.
Sioned
On 29 Nov 2013, at 12:02, Rhian Jones wrote:
> Mae pobol sir Ddinbych yn deud 'sgrwnjo' ac mae 'sgrownjar' yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru.
> Rhian
>
> -----Original Message----- From: Sioned Graham-Cameron
> Sent: Friday, November 29, 2013 11:55 AM
> To: [log in to unmask]
> Subject: scrounger
>
> Cyd-destun yw 'benefit scrounger'. Mae'r cwestiwn wedi ei ofyn o'r blaen, nôl yn Ionawr 2012 yn yr archifau, ond 'doedd dim ateb ar y pryd.
>
> Oes gan unrhyw un awgrym? Mae nifer o gynigion yn GyA, i gyd yn eiria da, ond i mi ddim cweit yn cyfleu'r hyn a olygir heddiw pan elwir rhywun yn scrounger...
>
> Diolch
> Sioned
|