On'd dydych chi'n werth y byd, Ann?!!
Na, onnen oedd y goeden, yn tyfu mewn derwen. Wna i dreio rhoi llun yma ond dw i ddim yn siwr a fydd yn gweithio.
Diolch yn fawr iawn am eich holl waith!
Cofion
Siân
On 2013 Tach 27, at 12:24 PM, [log in to unmask] wrote:
> Wedi bod yn trafod hyn a BRuce, Twm Elias, Duncan Brown (a, threyddo fo,
> Ieuan Roberts). Ni wyddai neb am enw ar lafar ar gyfer y fath o goeden a
> ddisgrifir. Mae'n debyg ei bod yn goeden epiffytig (gw. epiphyte ar
> Wikipedia), ac felly, i ddefnyddio'r gair symlach, yn "goeden ardyfol".
>
> Wedi bod yn Gwglo "epiphytic + witch tree" ar Wikipediad, a chael hyn:
> British folklorists of the Victorian era reported the folk belief in
> apotropaic powers of the rowan-tree, in particular in the warding off of
> witches. Such a report is given by Edwin Lees (1856) for the Wyre Forest in
> the English West Midlands.[15] Sir James Frazer (1890) reported such a
> tradition in Scotland, where the tree was often planted near a gate or
> front door.[16] According to Frazer, birds' droppings often contain rowan
> seeds, and if such droppings land in a fork or hole where old leaves have
> accumulated on a larger tree, such as an oak or a maple, they may result in
> a rowan growing as an epiphyte on the larger tree. Such a rowan is called a
> "flying rowan" and was thought of as especially potent against witches and
> their magic, and as a counter-charm against sorcery.[17] In 1891, Charles
> Godfrey Leland also reported traditions of rowan's apotropaic powers
> against witches in English folklore, citing the Denham Tracts (collected
> between 1846 and 1859).[18].
> Witch Tree yw un o enwau'r griafolen.
>
> Alla i ddim troi yn ol at y cwestiwn gwreiddiol heb lawer o drafferth ar y
> cyfrifiadur hwn, tybed ai criafolen oedd y goeden dan sylw? Os felly, mae'n
> debyg y gallwch chi addasu'r frawddeg, efallai efo cyfieirad mewn
> cromfachau ar enw llafar y Saesneg os teimlir bod angen.
>
> Ann
>
> Original email:
> -----------------
> From: Rhian Jones [log in to unmask]
> Date: Tue, 26 Nov 2013 12:15:41 -0000
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: witch tree
>
>
> Mae na gyfeiriad at ysgubellau’r gwrachod yn y ddogfen yma.
> http://www.calu.bangor.ac.uk/Technical%20leaflets/020403plumsanddamsoncymrae
> g.pdf
> Rhian
>
> From: Matthew Clubb [auc]
> Sent: Tuesday, November 26, 2013 10:19 AM
> To: [log in to unmask]
> Subject: witch tree
>
> O’r disgrifiad a roddwyd, fe fyddwn i’n dweud bod gennych chi goeden
> sydd wedi egino a thyfu yng nghesail canghennau coeden arall – sef yn yr
> enghraifft honno, onnen yn tyfu mewn derwen. Gallai pant ffurfio, dyweder
> rhwng dwy gangen, neu ran o’r goeden lle mae’r pren wedi marw, a dŵr a
> deilach yn cronni yn y pant, wedyn fe gewch chi hadyn yn egino yn y
> deilbridd yn y pant hwnnw. Dyw i ddim yn gwybod a oes modd i wreiddiau y
> newydd-ddyfodiad fod yn barasitig ynteu ife dim ond byw ar y maeth sydd yn
> y pant bach fel rhyw fath o fonsai.
>
>
>
> Gofynnaf i gyfaill imi sy’n goedwigwr – efallai y bydd e’n gwybod am
> enw Cymraeg hyd yn oed – ond nid yw’n ymhél ag ebyst na’r ffôn
> poced, felly fe allai fod diwrnod neu ddau cyn imi gael gafael arno ar
> ffôn y weiren!
>
>
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of GWERFYL
> PRICE
> Sent: 26 Tachwedd 2013 09:59
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: witch tree
>
>
>
> Helo Sian, efallai mai witchweed ydy o, sydd hefyd yn dyfiant parasitig?
>
>
>
>
>
> Gwerfyl
>
>
>
> ________________________________________
>
>
>
>
>
> From: Sian Roberts
>
> Sent: Monday, November 25, 2013 11:38 PM
>
> To: [log in to unmask]
>
> Subject: witch tree
>
>
>
> Oes rhywun yn gyfarwydd â hyn? "witch tree" - "Witch trees are strange
> and magical things - growing within the branches of another tree, like this
> cheeky little Ash 6 feet up in an old Oak."
>
> Diolch
>
>
>
> Siân
>
>
>
>
>
>
>
>
> --------------------------------------------------------------------
> mail2web - Check your email from the web at
> http://link.mail2web.com/mail2web
|