Helo Siān,
"Efallai na fyddai hyn yn ddoeth"???
Sori, ond yn amlwg byddai'n hollol hurt cyfieithu'r cyfeiriad, a rhoi
cyfeiriad nad yw'n bod! Beth fydda i'n wneud bob amser ydi mynd i'r wefan
Gymraeg a rhoi cyfeiriad hwnnw yn y cyfieithiad - sef
www.engagementwales.org.uk/?diablo.lang=cym yn dy achos di.
Dwi ddim yn gweld bod problem o gwbwl gyda hyn, fy hun!
Geraint
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Saturday, November 23, 2013 7:55 PM
Subject: cyfeiriadau gwefannau
Helo
Wedi drysu, braidd.
Mae arna i eisiau rhoi cyfeiriad gwefan mewn dogfen fydd yn ymddangos ar y
we ac ar bapur.
Dyweder mai enw'r mudiad yw Engagement Wales yn Saesneg ac Ymgysylltiad
Cymru yn Gymraeg.
Dyweder bod www.engagementwales.org.uk yn arwain at wefan Saesneg a bod
clicio ar y botwm Cymraeg yn arwain at
www.engagementwales.org.uk/?diablo.lang=cym
Does dim URL www.ymgysylltiadcymru.org.uk ond, pe bawn i'n mynnu, fe allwn i
olygu'r ddolen ar gyfer y fersiwn ar-lein i ddweud hynny a byddai clicio ar
y ddolen yn arwain at y wefan Gymraeg. Iawn?
Fodd bynnag, efallai na fyddai hyn yn ddoeth gan nad yw'r cyfeiriad yn bod
go iawn a byddai unrhyw un fyddai'n teipio www.ymgysylltiadcymru.org.uk i'r
bar chwilio yn mynd i'r gors.
Felly, ai'r peth gorau yw cynnwys y cyfeiriad cyfan
www.engagementwales.org.uk/?diablo.lang=cym yn y Gymraeg yn y fersiwn
ar-lein a'r fersiwn bapur?
Ddrwg gen i os ydi hyn yn ddryslyd. Gen i deimlad mod i'n dod ar draws hyn
yn aml heb ei weld yn broblem o'r blaen!
Diolch
Siān
-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2247 / Virus Database: 3629/6362 - Release Date: 11/24/13
|