"Bryn Cyfergyd" (gw. y Mabinogion") yw'r unig le y gallaf gofio clywed y
gair, a "blow" yw'r ystyr yn fanna'.
Ann
On 17/10/2013 11:52, Sylvia Prys Jones wrote:
> Dw i'n meddwl bod etymoleg y gair concussion yn cynnwys yr ystyr 'taro' hefyd. Fyddai dioddef effeithiau ergyd i'r pen yn gwneud y tro? Fyddwn i ddim yn deall y gair 'cyfergyd' oni bai fod Sian newydd ei esbonio!
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corket
> Sent: 17 October 2013 11:48
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: concussion
>
> Pa eiriaduron (heblaw GyrA)? Alla i ddim dod o hyd i "concussion" mewn
> rhestr o dermau meddygol heblaw'r hen "Termau Meddygol", sy'n rhoi
> "ergydwst", a all, o bosibl, fod ychydig yn nes at ystyr canlyniad cyfergyd.
>
> Ond i ba raddau y defnyddir "cyfergyd" neu "egydwst"? Alla i ddim dod o
> hyd i lawer o help ar Google, ond byddai'n anodd mynd yn erbyn y lli os
> bydd pawb arall yn dilyn GyrA. Awgrymodd Bruce y byddai "cyfergydwst"
> efallai'n datrys y broblem.
>
> O ran defnydd Undeb Rygbi Cymru, oni fyddai "achosion o gyfergyd" wedi
> bod yn well na "cyfergydion"?
>
> Ann
> On 17/10/2013 10:49, Sian Roberts wrote:
>> Mae stori ar y newyddion ynghych "concussion" mewn rygbi.
>>
>> Mae'r BBC yn defnyddio "cyfergyd" - a dyna sydd i'w weld mewn geiriaduron.
>>
>> "Ar hyn o bryd nid oes gan Undeb Rygbi Cymru raglen o hyfforddiant gorfodol ar gyfer delio gyda chyfergydion."
>> http://www.bbc.co.uk/newyddion/24562269?utm_source=twitterfeed&utm_medium=twitter
>>
>>
>> Ond, yn ôl a welaf i, mae'r gair "concussion" yn tarddu o'r Lladin am "ysgytwad ffyrnig" ac wedyn wedi mynd i olygu effeithiau'r ysgytwad ar yr ymennydd.
>>
>> Wela i ddim bod "cyfergyd" yn addas ar gyfer y cyflwr y mae rhywun yn dioddef ohono ar ôl cael slap i'w ben.
>>
>> Unrhyw awgrymiadau?
>>
>> Diolch
>>
>> Siân
>>
>>
>
> Rhif Elusen Gofrestredig 1141565 - Registered Charity No. 1141565
>
> Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilewch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio a defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Bangor.
>
> This email and any attachments may contain confidential material and is solely for the use of the intended recipient(s). If you have received this email in error, please notify the sender immediately and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or disclose any information contained in this email. Any views or opinions are solely those of the sender and do not necessarily represent those of Bangor University. Bangor University does not guarantee that this email or any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless expressly stated in the body of the text of the email, this email is not intended to form a binding contract - a list of authorised signatories is available from the Bangor University Finance Office.
>
|