Helo Sioned,
Os mai rhywbeth tebyg i'r llun ar y wefan hon ydi o:
http://www.thisisgrimsby.co.uk/Motorists-shouldn-t-hump-bump/story-18946869-detail/story.html#axzz2fQNzseoL
dwi'n meddwl mai ei fwriad ydi arafu traffig drwy godi lefel y gyffordd rhyw fymryn.
Gwelais restr o ddiffiniadau reit dda mewn dogfen dan y teitl "Station Road (Llanisien) - Arafu Traffig a Chyfleusterau i Gerddwyr" ar y we - mae hi'n werth chwilio amdani ar y we i chi gael y cyd-destun llawn, ond rhag ofn iddi gael ei thynnu oddi ar y we yn y dyfodol, dyma ambell ddyfyniad:
Nodweddion Arafu Traffig. Mae'r term hwn yn cyfeirio at fesurau rheoli traffig
ffisegol penodol sy'n gorfodi gyrwyr i leihau cyflymder cerbydau. Mae'r rhain yn
cynnwys twmpathau ffordd, clustogau arafu, byrddau arafu, rhwystrau culhau'r
ffordd, rhwystrau igam-ogamu, pyrth arafu, cylchfannau a nodweddion tebyg
eraill.
Cyffordd Fwrdd.
Mae cyffordd fwrdd yn debyg i dwmpath ffordd. Dyrchefir y gyffordd gyfan i greu platfform, sy'n lleihau cyflymder cerbydau. Mae darparu cyffordd fwrdd yn creu cyffordd ddiogelach drwy arafu'r holl gerbydau sy'n agosáu at y gyffordd gan felly gynnig allanfa ddiogelach o bob rhan o'r gyffordd.
Bwrdd Arafu. Amrywiaeth yw hwn ar y twmpath arafu lle mae pen uchaf y rhan ddyrchafedig (y bwrdd) dros ddwy fetr o led. Mae hyn yn achosi llai o anesmwythdra i deithwyr bws gan fod yr ardaloedd codi a disgyn wedi eu gwahanu gan y darn dyrchafedig. Defnyddir y rhain weithiau ar y cyd â chroesfannau cerddwyr er mwyn lleihau cyflymder a gwneud y groesfan yn fwy gweladwy i yrwyr.
"Cyffordd Fwrdd", felly?
Cofion gorau,
Huw
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sioned Graham-Cameron
Sent: 20 September 2013 10:39
To: [log in to unmask]
Subject: table junction
Oes gan unrhyw un syniad be fyddai hwn yn Gymraeg? Dwi'n cael trafferth canfod be ydi o yn Saesneg hefyd!
Priffyrdd yw'r cyd-destun.
Rwyf wrthi'n holi'r cwsmer, ond mae angen y gwaith ar frys, felly meddwl y baswn i'n holi yma.
Diolch am unrhyw gymorth
Sioned
-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2013.0.3408 / Virus Database: 3222/6678 - Release Date: 09/18/13
|