Glaswellt faswn i'n ddeud yn naturiol hefyd ond dwi'n credu mai 'porfa' sy'n
cael ei ddefnyddio'n gyffredinol yn y byd amaethyddol - ar bapur beth
bynnag - hy. tir mae'r anifeiliaid yn ei bori.
Mae 'na laswellt yn tyfu yn y cloddiau ac yn yr ardd ond mae'r glaswellt
sy'n cael ei bori'n 'borfa' er mwyn gwahaniaethu rhwng y ddau.
Mae'n gymhleth - gwair maen nhw'n ddeud yng Ngheredigion am laswellt -
glaswellt sydd wedi'i sychu a'i belio ydy hwnnw i bobl Maldwyn. Maen nhw
hefyd yn 'lladd gwair' yng Ngheredigion ond yn 'torri gwair' yn Sir
Drefaldwyn!
Linda
-----Original Message-----
From: Mary Jones
Sent: Monday, July 01, 2013 12:12 PM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: grass
Onid 'tir porfa' sy'n cael ei ddefnyddio ym mhob ardal?
Mary
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Beryl H Griffiths
Sent: 01 July 2013 12:01
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: grass
Dwi'n ofni na fyddwn yn cytuno Linda, yn sicr fyddwn i fyth yn deud 'porfa'
yn Llanuwchllyn 'ma! Glaswellt fydde fo yma. Rhaid cofio hefyd y gallai
glaswellt yn y cyd-destun yma gael ei bori neu ei ddefnyddio i wneud
silwair/gwair.
Beryl
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Linda
Griffiths
Sent: 01 July 2013 11:25
To: [log in to unmask]
Subject: Re: grass
Porfa yn y cyd-destun yma dwi'n credu Sian.
Linda
-----Original Message-----
From: Sian Roberts
Sent: Monday, July 01, 2013 11:06 AM
To: [log in to unmask]
Subject: grass
Un i'r bobl amaethyddol!
Sôn am fferm yng Ngwynedd:
Type of crops grown: Grass
Beth yw "grass" yn y cyd-destun yma? Glaswellt? Gwair? Porfa?
Maen nhw'n cadw gwartheg a defaid.
Diolch
Siân=
|