Brawddeg o un o bolisiau Llywodraeth y Cynulliad sydd dan sylw:
Every Young Person in Wales has the right to be consulted, to participate in decision making, to be heard on all matters that concern them or have an impact on their lives
Mae'r frawddeg wedi'i dyfynnu o ddogfen bolisi benodol, ond dwi ddim yn gwybod pa un.
Dwi wedi dod ar draws un cyfieithiad - 'Mae gan bobl ifanc hawl i ymgynghori' - ond dydy hynny ddim yn cyfleu'r ystyr. Cyrff a sefyldiadau sy'n ymgynghori, ac mae'r hawl yn ymwneud â chyfrannu at yr ymgynghoriadau hynny.
Fe welais i un enghraifft o 'mae gan Lywodraeth Cymru hawl i fod yn ymgynghorai' am 'the Welsh Government has the right to be consulted'.
Os nad oes neb yn gwybod o lle ddaeth y dyfyniad, tybed fuasai 'mae gan bobl ifanc hawl i gyfranogi mewn ymgynghoriadau' yn gwneud y tro? Mae'n swnio'n well na 'hawl i fod yn ymgynghoreion' - fuasai hynny'n swnio braidd yn chwithig?
|