Dogfen yn ymwneud â fferm wynt ydy'r cyd-destun. Mae'n cyfeirio at y ffordd mae cynllun y safle wedi'i drefnu, lleoliad y tyrbinau, y bwlch rhwng bob tyrbin, lleoliad ffyrdd mynediad, tyrbinau wedi'u gosod mewn mannau penodol fel na ellir eu gweld o fannau eraill megis llwybrau troed poblogaidd ac ati. Dyma enghraifft o'r ddogfen:
The design layout of the development has taken stakeholders views into account.
Dwi wedi gweld enghreifftiau o 'dyluniad y cynllun', ond hyd ag y gwela i, mae dyluniad gyfystyr â chynllun, felly ailadrodd sydd yma.
Beth am 'trefn y cynllun'? Neu a yw 'cynllun' ar ei ben ei hun yn ddigon i gyfleu 'design layout'?
Tybed beth yw barn y cylch?
|