Cytuno. Mae'r Gymraeg yn tueddu i ddefnyddio'r berfenw lle defnyddir enw yn Saesneg.
Cofio ffrind o ddysgwr yn dweud rhyw dro ei fod yn mynd i gael toriad gwallt!
Cofion
Siān
On 2013 Ebrill 24, at 9:52 AM, Dafydd Timothy wrote:
> Bore da, gyfieithwyr hoff!
>
> Dwi'n dal i balu trwy'r cwrs 'ma ar Anger Management ... ac yn gorfod defnyddio'r term yn fynych.
> Er fod y geiriaduron a'r termiaduron yn dueddol o ddweud 'Rheolaeth Dicter', mae 'na ryw ran ohona i sy isio defnyddio 'Rheoli Dicter' - mae i'w glywed yn well ac yn fwy cryno na'r uchod na 'Rheolaeth ar Ddicter'.
> Fase chi'n fodlon ar hynny ac yn dderbyniol i chi?
>
> Diolch,
> Dafydd
|