Cyfeiriad at sefydlu arferion ecogyfeillgar mewn busnesau twristiaeth ydy'r cyd-destun.
Mae enghreifftiau i'w gweld o 'mwy gwyrdd' a 'gwyrddach' ar wefannau sy'n trafod busnes a thwristiaeth.
Ydy 'gwyrddach' yn cyfeirio at liw a 'mwy gwyrdd' at arferion ecogyfeillgar? Er enghraifft, ardaloedd gwyrddach, yn llythrennol felly - mwy o blanhigion, parciau, glaswellt, coed - a busnesau gwyrddach - ailgylchu, ailddefnyddio papur, gosod paneli solar ayyb.
Neu a ydy 'mwy gwyrdd' a 'gwyrddach' fel ei gilydd yn gallu disgrifio arferion ecogyfeillgar?
|