Gallaf gydymdeimlo a Sioned, na fuasai wedi gwybod beth oedd "helm". Pan
ddechreuwyd son am waith ffordd newydd ym Maes yr Helmau ger Dolgellau,
dychmygais ryw gysylltiad rhamantaidd, canoloesol cyn i Bruce egluro.
Yr hyn wnaeth fy nrysu oedd, pan ddaeth Dutch barns i'n hardal ni, a
finnau'n blentyn, 'roedd siediau ochrau agored yn bethau newydd, felly
meddyliais eu bod nhw'n ffasiwn newydd o'r Iseldiroedd.
Beth bynnag, 'rwyf wedi bod yn ail-ddarllen "Plasau'r Brenin" Gwenallt, a
gyhoeddwyd yn 1934, lle mae'r awdur, yn y carchar, yn meddwl am fod yn wr
ifanc eto, yng nghefngwlad Sir Gar. Soniai am fynd "drwy dawelwch Sabothol
y buarth i weled yr ydlan, y ty^ gwair, yr helmi a'r teisi" (fel petai'r
helmi yn wahanol i'r ty^ gwair ac i'r teisi), ac mewn man arall, "y teisi
gwair a'r helmi gwenith". Mae Bruce hefyd yn mynnu bod "helm" yn wahanol i
dy^ gwair/sied wair, a byddwn i wedi meddwl bod angen dweud rhywbeth fel
"ty^ gwair ochrau agored" petai angen bod yn fanwl.
Mae cryn dipyn am y gair "helm (helmydd, helmi, helmau)" yn Cydymaith Byd
Amaeth. Dywed mai teisi gwair crwn, siap "helmet", wedi'u toi, byddai
helmau; byddai corneli crwn i das.
"O ddauddegau'r 20g y daeth yr "helm wair" yn yr ystyr hwn (sef ty gwair
agored - Ann) yn beth cyffredin. Teisi gwair wedi'u toi a welid ym mhob man
cyn hynny. Erbyn yr Ail Ryfel byd 'roedd yr helm (ty gwair) wedi dod yn bur
gyffredin. [Mae'n amlwg ein bod ni ar ei hol hi yn ein hardal ni!]
Defnyddir y gair hefyd, meddai, ar gyfer cysgodfa anifeiliaid mewn cae.
Ewch at GPC (neu brynwch cyfrolau gen i!) a gwelwch yr un peth eto.
Felly mae'n debyg mae teisi crynion wedi'u toi, nid siediau, oedd ar Faes yr
Helmau.
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Mary Jones
Sent: 13 March 2013 10:58
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Dutch barn
Sied wair, neu sied yr ydlan.
Mary
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd
Sent: 13 March 2013 09:31
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Dutch barn
On 13/03/2013 09:22, Sioned Graham-Cameron wrote:
> 'helm' neu 'sied wair' sydd yn GyrA dan "Dutch"
>
> Dydw i ddim yn meddwl y baswn i'n gwybod be yw helm ...
>
> Sioned
>
>
> On 13 Mar 2013, at 09:15, Dafydd wrote:
>
>> 'Dyn ni gyd wrthi'n ddygn...? Da iawn chi!
>>
>> Beth am ...
>>
>> - Dutch barn (amaethyddol) ?
Diolch - ges i blanc llwyr ac anghofio edrych o dan 'barn', jest 'Dutch.
Cefais eglurhad wrth Gwglo hefyd.
|