Mae'n ddrwg gen i am yr oedi, Sylvia. Heb sylwi ar y neges tan yn
ddiweddar, ac yn gorfod gwneud chwiliad am y ffeil wedyn. Cynhyrchwyd
rhestr o enwau rhywogaethau morol ar gyfer y cyngor Cefn Gwlad flynyddol yn
ol, ond am resymau cymhleth nis cyhoeddwyd eto. Ynddi, defnyddiodd Bruce, a
Llyr Gruffydd, "cranc meddal" fel "prif" enw "hermit crab", er y cynhwyswyd
enwau eraill, nid er mwyn eu defnyddio wrth gyfieithu o'r Saesneg i'r
Gymraeg, ond er mwyn eu hadnabod wrth gyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg.
Anfonaf yr ateb hwn rwan, rhag ofn bod 'na frys, ond dangosaf eich neges i
Bruce rhag ofn bod ganddo sylwadau ar egwyddor trefn termau.
Cofion,
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Jones,Sylvia Prys
Sent: 12 March 2013 12:57
To: [log in to unmask]
Subject: Geiriadur yr Academi
Dyma gwestiwn yr ydw i wedi bod yn meddwl ei ofyn ers talwm. (Dylwn i
fod wedi mynd at lygad y ffynnon pan oedd Dr Bruce Griffiths yn siarad
yn y sesiwn Gics Gramadeg ychydig wythnosau'n ôl!) Y cwestiwn ydy - oes
yna unrhyw arwyddocâd i drefn y cynigion yng Ngeiriadur yr Academi? Rydw
i'n eistedd o flaen y sgrin yn edrych ar y gair 'hermit crab' ac yn
gweld pedwar cynnig posib. Gan nad ydw i'n gwybod dim oll am grancod
does dim un ohonyn nhw'n canu cloch. Ddylwn i ddewis 'cranc meddal' am
mai dyna'r cyntaf? Ydy'n fwy cyffredin na'r lleill?
Diolch (gan obeithio bod Ann yn sbio ar ei chyfrif ebost....)
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
--
Rhif Elusen Gofrestredig / Registered Charity No. 1141565
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|