Syniad da, Geraint.
Roeddwn i ar fin cynnig rhywbeth arall, hefyd. Gan fod y Saesneg mor hoff o acronymau, tybed a ddylen ni ddefnyddio'r arf hwnnw weithiau pan fydd pethau fel hyn yn codi, e.e. "Y newid i CBS (Cymdeithas Bancio Canada)", gan roi'r cyfieithiad Cymraeg llawn ar ei ôl mewn cromfachau? Wnaiff o ddim gweithio bob tro, mi wn, ond mi allai fod yn handi weithiau.
Cofion gorau,
Huw
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 15 February 2013 17:00
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Treigo enw corff swyddogol.
Fasa'n fwy eglur dweud "y newid i fod yn gorff newydd, yn dwyn yr enw
Cymdeithas Bancio Canada."
Mae "i Cymdeithas" yn edrych yn od. I fi.
----- Original Message -----
From: "Howard Huws" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, February 15, 2013 4:41 PM
Subject: Treigo enw corff swyddogol.
Ga'i barn chi ynghylch treiglo enw corff swyddogol, gyfeillion? Yn bendodol,
ai cywir dweud:
"Y newid i Gymdeithas Bancio Canada" = "The change [that is happening] to
the Canadian Banking Society"
ond
"Y newid i Cymdeithas Bancio Canada" = "The transition to [the new body that
is] the Canadian Banking Society"?
Beth yw'r farn?
-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2238 / Virus Database: 2639/5604 - Release Date: 02/14/13
-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2013.0.2899 / Virus Database: 2639/6102 - Release Date: 02/13/13
|