Ychydig gofnodion o'n gerifa ni a allai fod o ddiddordeb:
~Mynegai Amddifadedd Lluosog Multiple Deprivation Index
~†[Mynegai Amlamddifadedd Cymru] Mae Mynegai Amlamddifadedd Cymru yn disodli Mynegai Amodau Cymdeithasol Economaidd Cymru. Datblygwyd y Mynegai blaenorol yn yr 1980au ac fe ddefnyddiai wyth dangosydd ar lefel ward. Fe’i paratowyd yn wreiddiol i dargedu cronfeydd adfywio gwledig, ac felly nid oedd yn adlewyrchu amddifadedd gwledig yn benodol. Ym 1999 dyfarnodd y Swyddfa Gymreig (bellach Cynulliad Cenedlaethol Cymru) mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gontract i dîm o Brifysgol Rhydychen i ddatblygu Mynegai Amlamddifadedd newydd i Gymru. Nod Mynegai Amlamddifadedd Cymru yw modelu lefelau o amddifadedd yng Nghymru a chefnogi datblygiad polisi a targedu adnoddau. Yr oedd y mynegai amddifadedd blaenorol yn defnyddio’r Cyfrifiad o’r boblogaeth fel prif ffynhonnell data ardaloedd bach. Seilir y Mynegai newydd ar fesurau mwy uniongyrchol o amddifadedd ar lefel ardaloedd bach, rhai ohonynt wedi’u ar ffynonellau newydd o ddata gweinyddol. Trinnir amlamddifadedd fel pe bai’n cynnwys dimensiynau penodol neu beuoedd o amddifadedd:incwm, cyflogaeth, iechyd, addysg, tai, a mynediad i wasanaethau. Mae’r ymagwedd hon yn caniatáu i’r peuoedd gael eu defnyddio ar wahân i nodi ardaloedd daearyddol sydd â mathau arbennig o amddifadedd, neu ar y cyd i ffurfio’r Mynegai cyffredinol o Amlamddifadedd. Mae’r Mynegai wedi’i ddylunio i gael ei ddiweddaru pan fydd data newydd ar gael a gellir ei ddiwygio drwy ymgorffori ffynonellau newydd o ddata. Caiff y Mynegai ei ddiweddaru yn gyfnodol (bob dwy flynedd o bosibl) er mwyn osgoi’r dryswch a achosir drwy ddefnyddio sawl fersiwn yr un pryd. Defnyddiwyd methodoleg debyg (unwaith eto gan dîm Rhydychen) i gynhyrchu Mynegai cyfatebol ar gyfer Lloegr. Ond ni ellir defnyddio’r ddau Fynegai i gymharu ardaloedd yng Nghymru â rhai yn Lloegr (er enghraifft, drwy fewnosod sgôr ar gyfer Cymru mewn graddiad ar gyfer Lloegr). Mae’r cydrannau sy’n ffurfio’r Mynegeion yn wahanol; ond maent wedi’u rhoi at ei gilydd mewn ffordd debyg. Cynhyrchwyd Mynegai Amlamddifadedd Cymru yn unol â’r egwyddorion a nodir yn y Framework for National Statistics. Welsh Index of Multiple Deprivation
~Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC): Ymgynghoriad ar y dangosyddion arfaethedig ar gyfer diweddaru MALlC Welsh Index of Multiple Deprivation (WIMD): Consultation on the proposed indicators for updating WIMD
~[Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2005] Cyhoeddwyd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2005 diwygiedig ar 22ain Tachwedd 2005. Roedd fersiwn wreiddiol Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2005 yn gywir fel y'i cyhoeddwyd. Fodd bynnag, nodwyd nad oedd y parth Cyflogaeth yn cynnwys un dangosydd a gafodd ei gymeradwyo gan y Grwp Cynghori, sef: pobl sy'n hawlio budd-daliadau yn ymwneud â diweithdra. Mae'r dangosydd yma yn ymddangos yn Mynegai Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, felly cytunwyd y dylid diwygio'r Mynegai i gynnwys y dangosydd. Mae'r diwygiad yn effeithio ar y parth Cyflogaeth a'r Mynegai cyffredinol, ond does dim newid i'r parthau eraill. Welsh Index of Multiple Deprivation 2005
~Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2005: Adroddiad Cryno Welsh Index of Multiple Deprivation 2005: Summary Report
Yn iach,
Tim
Tim Saunders
Cyfieithydd Translator
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough Council
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd
Sent: 26 February 2013 15:01
To: [log in to unmask]
Subject: Index of Depravation in Wales
Index of Depravation in Wales. (yng nghyd-destun ward trefol)
Methu cael hyd i unrhyw derm 'swyddogol' am hwn...?
Diolch am unrhyw gymorth
This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation
For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol.
I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad
|