On Jan 04, 2013, Matthew Clubb [auc] wrote:
>
> Beth bynnag yw ei thras a'i llinach, mae'n ffurf a glywir ar
> lafar. Dyw i ddim yn gweld sut y gallai fod yn anghyson, gan ei fod
> yn hollol gyson â morffoleg y Gymraeg. Rwy'n cydymdeimlo'n llwyr â'r
> sawl sy'n ei weld yn hyll, ond rwyf innau'n ei gael yn air go
> bersain! Sai'n hollol ffyddiog bod prydferthwch gair yn sail gadarn
> iawn am bwyso a mesur ei ddilysrwydd, mwy nag yw harddwch yn sail am
> fesur gwerth cyfieithydd!
Does dim cysondeb, dyna'r peth. Y ddadl wreiddiol oedd fod e-byst yn
lluosogi enw nad oedd angen (fel mass noun). Postyn yw unigol pyst.
Nid dyna dwi ddadlau.
O dderbyn fod cyfrwng 'y post' yn lluosogi, mae'n hawdd meddwl am
eiriau tebyg iawn i post sydd ddim yn dilyn patrwm ebyst. Pa rai o'r
canlynol sy'n dderbyniol?
pont -> pynt
tant -> tynt
tost -> tyst (joc wael)
cont -> cynt (joc waeth)
plat -> plyt
dant -> dynt
Dwi'n siwr fod yna pob math o resymau hanesyddol am y ffurf luosog
'naturiol' yn cynnwys dewis ysgolheigion, awduron a mympwy unigol.
Nawr os oeddech chi yn sgrifennu darn o gomedi neu ddychanol, fe alle
chi gael llawer o hwyl wrth chwarae gyda geiriau fel yr uchod. Ond
mae'n anodd gweld unrhyw derfyniad yn 'naturiol' gan fod gymaint o
ffactorau/carfannau sydd wedi hyrwyddo un neu'r llall.
|