Cytuno, mae 'na rywbeth bwriadol 'meddiannol' ynglŷn â 'chipio' ac mae'n awgrymu bod yr eiddo ym meddiant rhywun arall cyn hynny neu fod rhywbeth yn cael ei dynnu o rywle lle mae o i fod. Petai rhywun yn cydio mewn llyfr, fe allai'r llyfr hwnnw fod yn eiddo iddo, ond petai rhywun yn 'cipio' llyfr, mae 'na elfen o gymryd heb ganiatâd neu gydag elfen o hawlio meddiant. I fi, mae cipio yn awgrymu math o 'ddwyn' ( nad yw o reidrwydd yn anghyfreithlon) sydd fyddwn i'n meddwl yn berffaith ar gyfer 'land grab'.
Carolyn
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 22 Ionawr 2013 13:51
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: land grabs / grabbing
Dwi'n meddwl bod "cipio tir" yn well na "cydio mewn tir" ac yn sicr mae
awgrym anghyfreithlon yn perthyn i'r gair - cymharer "cipio plentyn",
"herwgipio".
Geraint
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, January 22, 2013 10:00 AM
Subject: Re: land grabs / grabbing
Diolch, Neil
Dydw i ddim yn siwr a ydi "cipio tir" yn awgrymu eu bod yn gwneud hynny'n
anghyfreithlon.
Wikipedia: "Land grabbing is the contentious issue of large-scale land
acquisitions: the buying or leasing of large pieces of land in developing
countries, by domestic and transnational companies, governments, and
individuals. While used broadly throughout history, land grabbing as used
today primarily refers to large-scale land acquisitions following the
2007-2008 world food price crisis."
Diolch
Siân
-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2221 / Virus Database: 2639/5549 - Release Date: 01/21/13
|