Ga i ofyn rhywbeth twp iawn: ai cyfieithiad o ymadrodd Saesneg sydd
ei eisiau o gwbl?
Beth yw natur y cyd-destun? Mi alla i ddychmygu (a disgwyl) rhestr
o ymarferion mathemategol wedi eu cyfleu mewn geiriau gan ddefnyddio
gwahanol eiriadau arferedig Saesneg -- ee "increase...by..%",
"add...% to", "what is ...% of" ayb -- gyda'r bwriad nid yn unig o
brofi gallu rhifyddeg ond hefyd o brofi gallu'r plant i ddadansoddi'r
cyfatebiaieth rhwng geiriau a'r pos mathemategol.
Os felly, yr hyn fyddai ei eisiau byddai ymarferion yn profi defnydd
o'r ymadroddion naturiol Cymraeg, na fyddent o bosib yn cyfateb un-wrth-un
i'r rhai Saesneg; nac ychawith symleiddio i osgoi ymadroddion Cymraeg
allent cael eu camddeallt gan rywun sydd ddim yn gyfarwydd a nhw.
|