Mae wedi cael nifer o ddamweiniau felly!!
Erbyn gweld, mae'r teclyn yn galluogi rhywun i fesur y pellter rhwng dau bwynt, dangos ffyrdd a nifer o nodweddion daearyddol etc wedi'u haroleuo a chael esboniad ar wahanol elfennau. Mae'n bosib, felly, mai bwriadol oedd defnyddio dim ond "teclyn mapiau".
Diolch
Siān
On 2012 Rhag 26, at 5:02 PM, Ann Corkett wrote:
> Byddwn i'n amau mai rhywbeth fel hyn oedd bwriad y cyfieithydd, a'i fod wedi
> hepgor gair yn ddamweiniol.
> Ann
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Mary Jones
> Sent: 26 December 2012 15:16
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Viewer
>
> Byddai, debyg. O leia mae'n cyfleu'r ystyr yn gywir. Neu beth am 'teclyn
> dangos/gweld mapiau'?
> Mary
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 26 December 2012 15:09
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Viewer
>
> Rhywun arall wrth ei ddesg?
>
> Darllen proflenni ac mae'r cyfieithydd wedi defnyddio "teclyn mapiau" am
> "map viewer".
> I mi, mae hyn yn awgrymu'ch bod yn galllu gwneud mwy na dim ond gweld y
> mapiau ond mae'n swnio'n fwy naturiol na'r rhan fwyaf o'r cynigion a gafwyd
> yma o'r blaen.
>
> Awgrymwyd "gwyliwr", "edrychydd", "gweliadur" a "gweledydd" mewn trafodaeth
> o'r blaen ond mae hynny'n swnio fel pe bai'r teclyn yn gwylio/edrych yn
> hytrach na'i fod yn caniatau i chi wneud hynny. (Ac mae "gwylio" yn awgrymu
> bod rhywbeth yn digwydd yn hytrach na'ch bod yn edrych ar lun llonydd).
>
> Holodd M. Paul Bryant-Quinn yn y drafodaeth yn 2000 "onid *dangos* y mae'r
> peiriant?"
>
> Fyddai "dangoswr" yn iawn felly?
>
> Diolch
>
> Siān
|