Diolch, Geraint!
Dw i wedi treulio 11 mlynedd yn pwslo pam "dwy fil a dau" yn hytrach na "dwy fil a dwy"!
Alla i gysgu'n dawel heno!
Siân
On 2012 Rhag 7, at 7:49 PM, Geraint Lovgreen wrote:
> Dwy fil un deg tri sy'n gywir.
>
> Yr un fath â dull cyhoeddi rhifau emynau yn y capel - (emyn saith cant dau ddeg chwech, nid saith cant a chwech ar hugain)
>
> Y rheswm am hyn yw mai nid sôn am 2013 o flynyddoedd ydan ni (sef dwy fil a thair ar deg) ond am y flwyddyn rhif 2013 (sef dwy fil un deg tri).
>
> Geraint
>
> Dyna pam mai "dwy fil a dau, tri..." ac ati oedd yn gywir ac nid "dwy fil a dwy" etc.
>
> ----- Original Message ----- From: "Emily Hammett" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, December 06, 2012 12:58 PM
> Subject: 2013
>
>
> Jest moyn cadarnhau: 'dwy fil a thair ar ddeg' yw'r ffordd o ddweud y flwyddyn, nid 'dwy fil un deg tri'?
>
>
> -----
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2012.0.2221 / Virus Database: 2634/5435 - Release Date: 12/03/12
|