Wel dyna dwp: 'roeddwn i'n meddwl cymaint ynghylch y geiriau gwahanol am
"horseblanket" - Bruce a gofiodd y rheina, gyda llaw - fel na feddyliais i
am y cyfieithiad syml " xxx troi allan"!
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 18 September 2012 11:27
To: [log in to unmask]
Subject: Re: turnout
Pan ddarllenais ran gyntaf yr ymholiad, meddyliais eich bod chi'n holi
ynghylch "turnout" fel yn "that's a smart turnout". Wedi darllen y testun,
'rwy'n amau mai "turnout blanket" sydd yma, h.y. hen flanced y buasech chi'n
troi'r ceffyl allan i'r cae ynddi, heb boeni gormod ynghylch llaid a
rhwygiadau mieri. Os edrychwch dan
http://www.equestriancollections.com/storeitems.asp?department=Horses&cc=469
cewch "Horse Turnout blankets are specifically designed to protect your
horse from the elements while turned out in a field or paddock outdoors."
Os yw GPC gennych, edrychwch dan "hws" a chewch "brethyn neu garthen a roir
ar gefn ceffyl, brethyn march, cefnlliain march"; byddwn i'n meddwl mae
"carthen" neu "cefnlliain" fyddai'r gair i'w ddefnyddio'n gyffredinol, yn
hytrach na "blanced" (er y gellid ailgyflwyno'r gair "hws" a'i egluro mewn
cromfachau?).
Ar gyfer "turnout", gan ddibynu ar y gair y dewiswch yn gyffredinol, efallai
byddai rhywbeth fel "carthen/ cefnlliain/ hws + ansoddair/enw" yn gwneud y
tro - caiff pobl eraill awgrymu posibiliadau. Cymeraf fod yr "old" yn
cyd-fynd a'r "summer blanket" A'R "turnout". Y peth sy'n ddirgelwch imi yw
lle byddai ceffyl yn gwisgo "summer blanket" - heblaw'r cwestiwn hwnnw,
byddwn i'n meddwl am "carthen cae", er enghraifft, ar gyfer "turnout".
Gobeithio bydd rhywun yn darllen hyn sy'n gwybod mwy na fi am geffylau.
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Meinir Thomas
Sent: 18 September 2012 08:17
To: [log in to unmask]
Subject: turnout
Bore da bawb,
Oes rhywun a all fy helpu gyda'r gair 'turnout' mewn perthynas â cheffylau
os gwelwch chi'n dda?
Dyma'r darn:
Marking your rugs will help prevent their theft, help safeguard your horse
and if they ar lost can stop their resale. It will also enable someone to
return them to you should they be found. Even though you think it is just an
old summer balnket or turnout, if it's stolen your loss is the price of a
replacement which can easily be hundreds of pounds.
Diolch ymlaen llaw am eich cymorth.
Cofion gorau,
Meinir
|