Mae "deorydd" (ac amrywiaethau) yn GyrA dan "incubator". Nid yw Bruce yma,
imi ofyn a oedd o'n teimlo nad oedd "deori" yn addas ar gyfer bacteria, ond
gallaf holi'n nes ymlaen y prynhawn 'ma.
O ran sylw Sylvia, er na fyddai eisiau'r bacteria, 'tasen nhw yno, buasai
eisiau iddynt dyfu, er mwyn datgelu eu hunain, felly 'dw i ddim yn teimlo
bod 'na gymaint o broblem a hynny.
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Jones
Sent: 31 July 2012 14:31
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Incubator Room
Dallt dim am waith dwr, ond mae 'meithrin' yn cael ei ddefnyddio ym maes
bioleg hefyd yntydi - ystafell meithrin bacteria?
Rhian
O.N. Mae http://www.cbac.co.uk/uploads/publications/12714.pdf yn rhoi
'deorydd' am 'incubator' yn y cyd-destun yma hefyd.
-----Original Message-----
From: Sian Roberts
Sent: Tuesday, July 31, 2012 2:03 PM
To: [log in to unmask]
Subject: Incubator Room
Mewn gwaith trin dwr mae'r stafell yma. Gofynnais am esboniad:
"The incubators 'incubate' petri-dishes and any bacteria present will grow."
Yn ôl GyrA, y gair am inciwbetio bacteria yw "magu" ond does dim gair yn sôn
am facteria o dan "incubator"
Fyddai hi'n dderbyniol i osgoi sôn am "incubator" a dweud "ystafell magu
bacteria"?
Diolch
Siân
|