Sylwaf (os nad ydw i wedi darllen yn rhy frysgiog) nad oes neb yn cyfeirio
at awgrymiadau GyrA, ac mi wn fod Sian yn un dda am edrych yno fel arfer - a
oes 'na ryw wall ar y fersiwn ar lein, tybed?
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Neil Shadrach
Sent: 28 July 2012 11:31
To: [log in to unmask]
Subject: Re: microwave
2012/7/28 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
> Ydi - mae'r don yn fenywaidd ond sôn am y popty rydyn ni fan hyn.
Rwy'n deall ein bod ni'n trafod y ffwrn ond dyw hynny ddim yn newid
cenedl y gair 'microdon' - a dyna'r pwynt ro'n i'n ymateb iddo.
> Mae "y feicrodon" yn swnio'n wirion iawn i mi am y popty.
Alla'i ddim helpu'r ffaith bod y gair yn swnio'n wirion i rhai. Tynnu
sylw at y ffaith ei fod e'n cael ei ddefnyddio gan lawer ar y we a gan
o leiaf ychydig ers degawdau.
> A dydi "ffwrn" ddim yn ei siwtio chwaith, na "stof".
Ddim yn gweld beth sy'n bod ar 'ffwrn'. Mae bwyd yn mynd mewn iddi ac
yn cael ei gynhesu. Roedd 'car' yn golygu 'sled' ar un adeg mae'n
debyg. Ydy hynny'n golygu ei fod yn air gwirion ar gyfer cerbyd gydag
olwynion?
|