Rhoi rhywbeth yn y meicro fydda i'n tueddu i ddeud.
----- Original Message -----
From: "Neil Shadrach" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Saturday, July 28, 2012 11:30 AM
Subject: Re: microwave
2012/7/28 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
> Ydi - mae'r don yn fenywaidd ond sôn am y popty rydyn ni fan hyn.
Rwy'n deall ein bod ni'n trafod y ffwrn ond dyw hynny ddim yn newid
cenedl y gair 'microdon' - a dyna'r pwynt ro'n i'n ymateb iddo.
> Mae "y feicrodon" yn swnio'n wirion iawn i mi am y popty.
Alla'i ddim helpu'r ffaith bod y gair yn swnio'n wirion i rhai. Tynnu
sylw at y ffaith ei fod e'n cael ei ddefnyddio gan lawer ar y we a gan
o leiaf ychydig ers degawdau.
> A dydi "ffwrn" ddim yn ei siwtio chwaith, na "stof".
Ddim yn gweld beth sy'n bod ar 'ffwrn'. Mae bwyd yn mynd mewn iddi ac
yn cael ei gynhesu. Roedd 'car' yn golygu 'sled' ar un adeg mae'n
debyg. Ydy hynny'n golygu ei fod yn air gwirion ar gyfer cerbyd gydag
olwynion?
|