On Jun 13, 2012, Roberts, Nia wrote:
> Rhywun wedi dod ar draws hwn? Wedi cael diffiniad ar 'Google' ond ddim
> yn hapus i'w gyfieithu fel 'cymdeithas wybodus'. Y gallu i ddefnyddio'r
> wybodaeth yw'r ergyd rwy'n meddwl.
Ar ddiwedd y 90au o'n i'n gweithio ar wefan i'r WDA o'r enw
"Wales Information Society - Cymdeithas Wybodaeth Cymru".
Mae'r wefan wedi hen fynd ond dyma sydd ar eu cyflwyniad nhw:
Er ei bod yn ffaith o fywyd, mae'r "Gymdeithas Wybodaeth" yn
gysyniad amwys y mae llawer yn ei gael yn anodd ei ddeall. Cyfeirir
at y Gymdeithas Wybodaeth weithiau fel y "Gymdeithas Ddysgu" neu -
yn fwyfwy yn y DG - fel yr "Oes Wybodaeth".
Yn y saesneg mae nhw'n cyfeirio'n fwy penodol at y dryswch gyda
'knowledge'
Although it is a fact of life, the "Information Society" is a
nebulous concept which many find difficult to grasp. Confusingly, it
is sometimes referred to as the "Learning Society" or the "Knowledge
Society", or - increasingly in the UK - as the "Information Age".
|