Hwn yw'r swyddog sy'n gyfrifol am gludo'r faner fawr i'w gorymdeithio o
amgylch ei fataliwn o filwyr (ar faes y gād mewn dyddiau a fu), ond bellach
mewn seremonļau penodol yn unig; megis seremoni / pasiant blynyddol
'Trooping the Colour' a gynhelir yn flynyddol i ddathlu Penblwydd Swyddogol
y brenin neu'r frenhines ym Mhrydain. Nid ar union ddyddiad y penblwydd ei
hun fel y digwydd, ond wastad ar yr un adeg yn flynyddol, sef pan fo'r
tywydd yn gymharol braf, ganol yr haf (eleni fe'i cynhaliwyd ar y dydd
Sadwrn diwethaf, ar yr 16eg Mehefin 2012). Cyfeiria'r 'lliwiau' at y
lliwiau herodrol sydd ar y faner - lliwiau sy'n unigryw berthnasol i'r
gatrawd a fydd yn gorymdeithio ar y parźd ar y diwrnod dan sylw.
I fod yn gywirach ac yn fwy hunan-esboniadol, efallai y dylai'r teitl Saeneg
fod yn fwy cyflawn, i gyfleu rhywbeth fel 'Colour Bearing Seargent'; ond o
hen arferiadau byddinol wrth gwrs, mae pawb yn deall yn ddigon da oddi wrth
y talfyriad, beth yn union y mae'r teitl yn amlwg yn ei olygu.
Ar gyfer cyfieithiad Cymraeg, fodd hynny, efallai fod angen y gair
ychwanegol, er mwyn cyfleu'r hyn a olygir yn ddiamwys. Rhywbeth fel
'Rhingyll Cludo'r Lliwiau', neu 'Rhignyll Gwarchod y Faner', neu 'Rhingyll
Gorymdaith y Lliwiau', ... Ond mewn gwirionedd, mae'n anodd gen i
ddychmygu y gellir dod o hyd i unrhyw fathiad 'dau air o hyd' a fydd yn abl
i gyfleu yn union yr hyn sydd (oherwydd y traddodiadau a'r arferion
pasiantau a gorymdeithio milwrol a gynhaliwyd mwy neu lai yn ddigyfnewid
drwy'r canrifoedd) yn gwbl ddealladwy yn yr iaith Saesneg, o fewn y
cyd-destun milwrol Prydeinig.
Eurwyn.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 21 June 2012 17:44
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Colour Sergeant
Beth/pwy ydio?
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, June 21, 2012 4:15 PM
Subject: Colour Sergeant
Rhingyll/Sarsiant/Sarjant Lliwiau ?
Rhingyll/Sarsiant/Sarjant Baner ?
Diolch
Siān
|