Newydd weld bod y pecyn eisoes yn cael ei gyfeirio ato fel pecyn neu fwndel SKIN yn Gymraeg, felly mae'n debyg y byddai'n well i mi gadw at hwnnw. Llawer o amser wedi'i wastraffu yn ceisio bod yn greadigol...
Iwan
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Mark Nodine
Sent: 08 Mehefin 2012 15:51
To: [log in to unmask]
Subject: Re: SKIN Care Bundle
Dwi'm yn sicr taw hynny'n well, ond LlWYD, gan ddefnyddio 'lluniaeth'
am 'nutrition'.
--Mark
On 06/08/2012 08:41 AM, Iwan Williams (ABM ULHB - Corporate Services) wrote:
> Rhestr o'r pethau sy'n bwysig i atal briwiau pwysedd (pressure ulcers)
> sydd dan sylw:
>
> *S*urface - ensuring the patient has the right mattress and chair
> cushion (*W*yneb/*A*rwyneb)
>
> *K*eep Moving - putting a plan of how frequently patients should be
> moved in place (*C*adw i symud/*D*al i symud/*S*ymud)
>
> *I*ncontinence - ensuring that continence needs are met
> (*A*nymataliaeth/*Y*mataliaeth)
>
> *N*utrition - ensuring that patients receive the required nutritional
> support (*M*aeth/*B*wyd)
>
> Oes gan unrhyw un syniadau am eiriau Cymraeg y gellir eu gwneud o
> lythrennau cyntaf y geiriau mewn cromfachau (neu rai eraill ag ystyron
> tebyg) i greu enw Cymraeg ar gyfer y pecyn gofal hwn? Bydd angen
> defnyddio un llythyren/gair o bob pâr o gromfachau (am resymau amlwg)
> ond does dim ots am y drefn y maent yn ymddangos ynddi.
>
> BAWD yw'r gorau yr ydym ni wedi dod o hyd iddo hyd yn hyn - oes gan
> unrhyw un awgrymiadau gwell/geiriau ag ystyr tebycach i'r Saesneg?
> Croen/Crwyn fyddai'n ddelfrydol ond alla i ddim gweld bod hynny'n
> bosib - gobeithio y gwnewch chi brofi fy mod i'n anghywir...
>
> Diolch ymlaen llaw,
>
> Iwan
>
|