Tim a gyfeillion oll,
Cytuno gant y cant gyda sylwadau Tim. Rhag ofn nad ydych yn ymwybodol
ohono, mae Cofnod y Cynulliad eisoes gennym mewn corpws cyfochrog
chwiliadwy ar-lein. Ewch i http://www.cysgliad.com/cysefin/hebog/ i'w
weld. Mae'n declyn a ddatblygwyd yn wreiddiol ar gyfer ein hymchwil
terminolegol ein hun ond sydd ar gael yn rhad ac am ddim i bawb arall
hefyd. Rydym yn bwriadu ehangu'r corpws i gynnwys dogfennaeth gyhoeddus
arall hefyd yn dibynnu ar amodau hawlfraint. Yn y cyfamser, mwynhewch!
Delyth
Ysgrifennodd Saunders, Tim:
> Newyddion calonogol dros ben. Diolch am roi gwybod i ni.
>
> Hoffwn ychwanegu un pwynt sydd o bwys i ni i gyd yn ein gwaith beunyddiol, ac i'r cyhoedd yn gyffredinol. Bellach, mae statws cyfreithiol testunau Cymraeg yn fwy diogek nag y bu ers 1536. Mae'n allweddol bwysig felly fod dogfennau gyda grym cyfreithiol - hysbysebion, contractau, rhybuddion a hysbysiadau, ayyb, yn glynu'n agos at yr union derminoleg ac ymadroddion sy'n meddu ar y grym hwnnw. Y ffordd rwyddaf a mwyaf effeithiol o sicrhau hyn fyddai ychwanegu cynnwys corpws deddfwriaeth ddwyieithog y Cynulliad at y gronfa ar-lein. Carwn ofyn pa gamau a gymerodd y Comisiynydd i wneud hyn?
>
> Yn iach,
>
>
> Tim
>
>
> Tim Saunders
> Cyfieithydd Translator
> Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough Council
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Lowri Williams
> Sent: 16 May 2012 10:41
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Erthygl Bruce ar 'Golwg'
>
> Annwyl Gyfeillion
>
> Gwell fyddai egluro ichi beth yw bwriadu Comisiynydd y Gymraeg parthed Geiriadur yr Academi ar-lein yn dilyn neges Tim Saunders a chyfraniad Bruce Griffiths at erthygl yn Golwg ddechrau mis Mai.
>
> Trosglwyddwyd y drwydded i gyhoeddi'r fersiwn digidol o Geiriadur yr Academi ar-lein i Gomisiynydd y Gymraeg ar 1 Ebrill 2012. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn ymrwymedig i gynnal a datblygu Geiriadur yr Academi ar-lein ac mae wedi neilltuo cyllideb i alluogi hynny. Bydd y gwaith cynnal a datblygu yn cynnwys gwella'r cofnodion sydd mewn pinc ar hyn o bryd yn y gronfa ar-lein; ychwanegu cofnodion a diweddaru a chywiro cofnodion yn unol â'r atodiadau yn y geiriadur print a dymuniadau'r golygyddion. Fel rhan o'i waith yn cydgysylltu'r gwaith o safoni terminoleg ac enwau lleoedd, bydd Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal adolygiad o'r maes geiriadura a safoni termau yn ei gyfanrwydd er mwyn sicrhau bod anghenion y Gymraeg a'i siaradwyr yn cael eu diwallu.
>
> Yr eiddoch yn gywir
>
>
>
> Lowri W. Williams
> Uwch Swyddog Cyngor a Chefnogaeth/Senior Advice and Support Officer
> +44 (0)29 2087 7574
> --------------------------------------------
> Comisiynydd y Gymraeg
> Siambrau'r Farchnad, 5-7 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1AT
>
> 0845 6033 221
> Croesewir gohebiaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg comisiynyddygymraeg.org
>
> Dylai'r datganiadau/sylwadau uchod gael eu hystyried yn rhai personol ac nid o reidrwydd yn ddatganiadau neu sylwadau gan Gomisiynydd y Gymraeg, unrhyw ran ohono neu unrhyw gorff sy'n gysylltiedig ag ef. Mae'r e-bost hwn wedi cael ei sganio gan System Diogelwch e-bost Symantec Security.cloud. Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â messagelabs.com/email.
> This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation
>
> For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
>
>
>
> Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol.
> I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad
>
--
Rhif Elusen Gofrestredig / Registered Charity No. 1141565
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|