Ydy, sbo. Debyg fod angen ymchwil pellach i ddarganfod p'un yw'r term mwyaf arferol erbyn hyn. Ond dyna fel y bydd geirfa - autres temps, autres moeurs, ys dywed yr hen air, ac at hynny fe allai rhywun ychwanegu autres mots, hefyd.
Fel mater o ddiddordeb, y term yn Gernyweg yw 'sudronell', sy'n perthyn i'r gair 'sudronenn', sef 'gwas y neidr' - y cysylltiad â mannau gwlyb yn dal yn allweddol, mae'n debyg.
Yn iach,
Tim
Tim Saunders
Cyfieithydd Translator
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough Council
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eluned Mai
Sent: 24 May 2012 14:39
To: [log in to unmask]
Subject: Re: reed
Onid 'rushes' ydy brwyn - y gwellt unionsyth hynny roedden ni'n arfer medru gwneud cychod hwylio hefo nhw pan oedden ni'n blant. Os oedden ni'n gwneud hwylbren go lew, roedden ni'n medru eu hwylio'n falch o dan bont yr afon fach ac roedden nhw'n dod allan yn smart ar yr ochr arall - heb droi ar eu hochr. Onid yw 'corsen' (reed) yn blanhigyn gwahanol?
Eluned
2012/5/24 D.Prys <[log in to unmask]>:
> Flin gen mai nawr rwy'n gweld y drafodaeth hon.
>
> Rwy'n cofio i ni wneud dipyn o waith ymchwil i 'reed' yng ngyd-destun
> offerynnau chwyth, a chael yr ateb mai 'brwynen' oedd yn arferedig ac
> yn gymeradwy gan athrawon cerdd yr ysgolion cyfrwng Cymraeg - nid
> 'corsen'. Ar y sail hwnnw y safonwyd ar 'brwynen'.
>
> Wrth i Eiriadur yr Academi ddod yn fwy hygyrch nawr ei fod ar lein,
> mae patrwm cynyddol o droi ato a'i gymharu gyda'r Termiadur Addysg.
> Mae hyn yn beth da iawn o ran cynigion cyfieithu cyffredinol, ond
> cofiwch eu bod yn ddau anifail gwahanol. Mae Geiriadur yr Academi yn
> eiriadur DISGRIFIADOL yn rhoi cyfoeth o gyfystyron a chynigion Cymraeg
> ar gyfer geiriau ac ymadroddion Saesneg. Mae'r Termiadur Addysg a'r
> holl eiriaduron termau sydd yn y Porth Termau ar y llaw arall yn
> eiriaduron RHAGNODOL o dermau sydd wedi'u safoni at ddibenion iaith
> dechnegol. Yn benedol, os yw cyfieithydd yn gwneud gwaith i Adran
> Addysg Llywodraeth Cymru maent yn gofyn i gyfieithwyr ddilyn
> argymhellion y Termiadur Addysg. Gan gofio nad yw'r un geiriadur yn
> berffaith a bod disgwyl i gyfieithwyr ddefnyddio'u synnwyr cyffredin
> hefyd (darllenwch y canllawiau - rhif 7 yn enewdig
> http://www.termiaduraddysg.org/?page_id=14) mae hon yn egwyddor i'w chofio.
>
> Delyth
>
>
> Ysgrifennodd Geraint Lovgreen:
>
> Diolch yn fawr am yr atebion - 'corsen' amdani.
>
> ----- Original Message -----
> From: martin davies
> To: [log in to unmask]
> Sent: Tuesday, May 22, 2012 4:28 PM
> Subject: Re: reed
>
> 'corsen' sy'n gyfarwydd i bibyddion
>
> Date: Tue, 22 May 2012 16:07:30 +0100
> From: [log in to unmask]
> Subject: reed
> To: [log in to unmask]
>
> ar offeryn chwyth - brwynen yn ôl y Termiadur ond corsen yn ôl GyA.
>
> Oes yna chwaraewyr offerynnau chwyth all roi ateb pendant imi, ogydd?
>
> "reed" ydi'r unig derm dwi wedi'i glywed gan fy sacsoffonwyr.
>
> Geraint
>
>
>
>
> --
> Rhif Elusen Gofrestredig / Registered Charity No. 1141565
>
> Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
> gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
> gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
> neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith
> a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i
> chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir
> ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn
> unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn Prifysgol Bangor. Nid
> yw Prifysgol Bangor yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw
> atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn
> wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y
> neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Bangor.
> www.bangor.ac.uk
>
> This email and any attachments may contain confidential material and
> is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
> received this email in error, please notify the sender immediately and delete this email.
> If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or
> disclose any information contained in this email. Any views or
> opinions are solely those of the sender and do not necessarily
> represent those of Bangor University. Bangor University does not
> guarantee that this email or any attachments are free from viruses or
> 100% secure. Unless expressly stated in the body of the text of the
> email, this email is not intended to form a binding contract - a list
> of authorised signatories is available from the Bangor University
> Finance Office. www.bangor.ac.uk
This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation
For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol.
I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad
|