Cytuno. Mae 'na dwtsiad yma o ystyr arall "champion", rhywun sy'n
arwain/hyrwyddo/cynrychioli/eirioli dros bobl eraill, nid rhywun sydd wedi
ennill a churo pawb arall. Byddai'n dda rhoi stop ar gam-ddefnydd
"pencampwr" ar gyfer y rheina. Ond mae'r ddau ystyr yma - pobl arbennig
sy'n sefyll allan, ond sy'n gwneud hynny oherwydd eu gwaith dros eraill.
Mae "arwr" yn medru cyfuno'r ddau syniad - a dydy o ddim yn swnio'n rhy od
efo "diewmwnt" chwaith (biti mae'r jiwbili diemwnt ydyw - byddai "arwyr aur"
wedi bod yn well byth).
Rhaid iti, Anna, roi'r gorau i ganmol pethau trwy ddweud "Champion" - mae'n
ei gwneud hi'n anodd chwilio'r archif!!
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Jones,Sylvia Prys
Sent: 11 May 2012 09:19
To: [log in to unmask]
Subject: Re: champion
Sian Roberts wrote:
> Mae elusen Brydeinig yn dathlu jiwbilî'r Frenhines trwy anrhydeddu pobl
> hyn sy'n gwirfoddoli yn eu cymunedau.
> Yn Saesneg, yr enw yw "Diamond Champions".
> Mae "Pencampwyr Diemwnt" yn fy nharo i'n rhyfedd yn y cyd-destun hwn.
> Rhyw elfen o grefft / cystadleuaeth ynddo.
> Oes gair gwell? Arwyr Diemwnt? Sêr Diemwnt? Dydi "Cymwynaswyr Diemwnt"
> ddim yn rhoi'r un statws iddyn nhw.
>
> Diolch
>
> Siân
Dw i'n cofio rhywbeth tebyg rai blynyddoedd yn ol - unsung heroes - am
bobl oedd yn gwneud gwaith yn eu cymunedau - arwyr tawel a
ddefnyddiwyd, os ydw i'n cofio'n iawn. Byddwn i'n meddwl bod arwyr yn
addas iawn yn y cyd-destun.
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
--
Rhif Elusen Gofrestredig / Registered Charity No. 1141565
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|