Yn bersonol, mae bolgi'n golygu rhywun sy'n farus ac yn bwyta'n ddi-stop ac
mae foodie yn golygu rhywun sy'n frwdfrydig ynghylch bwyd. Ond efallai fy
mod i'n anghywir!!
Melanie
-----Original Message-----
From: Wyn Hobson
Sent: Tuesday, May 01, 2012 1:25 PM
To: [log in to unmask]
Subject: food snobs?
Parthed 'foodies', meddai Anna:
> Crachfolgwn?
Pe bawn i wedi clywed y term hwn wrth gyfieithu ar y pryd (ac wedi deall y
cyd-destun yn ddigon buan), mae'n debyg mai'r cyfieithiad y buaswn i wedi ei
lefaru — o dan bwysau'r foment — fuasai 'food snobs'.
Tybed a fuasai 'crachfolgwn' yn gyfieithiad derbyniol ar gyfer y term hwnnw?
Buasai'n biti gorfod rhoi bathiad mor rywiog o'r neilltu!
Hwyl,
Wyn
|