Dw i'n gwneud ymholiad ar ran Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Gwynedd.
Defnyddir "No ifs and no butts" fel slogan ar gyfer ymgyrch gan wasanaethau ieuenctid (led led Prydain am wn i) i annog pobl ifanc i beidio ag ysmygu mewn mannau cyhoeddus a pharciau.
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd yn creu fersiwn Gymraeg o'r taflenni sy'n rhan o'r ymgyrch, oes gan rywun awgrym creadigol ar gyfer slogan addas i'r taflenni Cymraeg?
Diolch,
Ifan Prys
Swyddog Datblygu Iaith
Gwasanaeth Cyfeiriad Strategol
Cyngor Gwynedd
01286 679452
|