neu - cynta adre ?
----- Original Message -----
From: "Eurwyn Pierce Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, April 17, 2012 9:41 AM
Subject: Re: First Past the Post
Os mai o fyd rasio ceffylau y bu i'r ymadrodd Saesneg ennill poblogrwydd, ac
os mai benthyg y trosiad a wneir i system bleidleisio gwleidyddol, yna beth
am geisio chwarae efo ryw gysyniadau tebyg i: Y Ceffyl Cyntaf / Y Ceffyl
Blaenaf / Y Ceffyl Buddugol / Y Merlyn Mireiniaf / Y March Buddugoliaethus /
Y Carlamwr Cyflymaf / Llamwr y Llidiart / Y Llamwr-Enillydd / Y Buddugol o'r
Bwth (Bwth Pleidleisio)/ Y Rhuthrwr Drwy'r Rhuban (rhuban ar linell derfyn y
ras) / Y Rhuban-Groeswr Cyntaf / Y Rhuban-Rwygwr / Llamwr y Llinell Wen /
Cipiwr y Cwpan Arian / Red-Rymiwr y Ras / Y Pen ar y Blaen heibio'r Postyn /
Y Pen ar y Blaen rhwng y Pyst / Y Pen-wthiwr heibio'r Postyn / Ffefryn y
Ffair / Ffefryn y Farchnad / Yr Ebol mwyaf Abl / ... gan chwilio am rywbeth
os yn bosib, wrth gwrs, i adlewyrchu'r cyflythrennu: 'P...ST' ar "firST
PaST the PoST". Does gen innau ddim byd penodol ar hyn o bryd i'w gynnig,
ychwaith.
Eurwyn.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 16 April 2012 19:18
To: [log in to unmask]
Subject: Re: First Past the Post
Y system bleidleisio ydi'r cyd-destun.
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, April 16, 2012 5:57 PM
Subject: Re: First Past the Post
On'd yw ystyr "am y cyntaf" yn rhywbeth tebyg? Ond efallai byddai'n help
cael gwybod y cyd-destun.
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 16 April 2012 15:00
To: [log in to unmask]
Subject: Re: First Past the Post
A bod yn fanwl, "First come, first served" ydi'r ystyr a gyfleir gan "y
cyntaf i'r felin..."
Dydi hynny ddim cweit yr un peth â "first past the post", er mai dyna mae
Term Cymru'n ei gynnig.
Oes gan rywun gyfieithiad gwell plis?
|