Yn ôl Canllawiau Arddull Cyfieithu Deddfwriaethol 2012 Gwasanaeth Cyfieithu
Llywodraeth Cymru, ffurfiau cymeradwy yw:
"rhoi cyfle i’r Comisiynydd i benderfynu, rhoi llyfr i’r plentyn i’w
ddarllen etc"
ac anghymeradwy yw
"rhoi cyfle i’r Comisiynydd benderfynu, rhoi llyfr i’r plentyn ddarllen etc"
Rwy'n credu y gallai cyfieithu i'r Saesneg helpu yma:
"Give the Commissioner an opportunity to decide" a "give the child a book to
read" fyddai'r ddwy enghraifft gyntaf, ond fe allech chi ddweud mai
"Provide an opportunity for the Commissioner to decide" a "provide a book
for the child to read" fyddai'r ddwy enghraifft olaf.
Felly, gall y ddwy gystrawen fod yn iawn yn eu lle, ond bod mymryn o
wahaniaeth yn yr ystyr.
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of
Jones,Sylvia Prys
Sent: 03 Ebrill 2012 13:55
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: Helpu
Tra ydym yn trafod yr 'i' bondigrybwyll gaf i ofyn cwestiwn hefyd.
Ydy'n iawn ysgrifennu Rhoi cyfle i rywun i wneud rhywbeth.
Dw i'n meddwl bod hynny'n gywir ond mae cydweithiwr i mi yn dweud bod angen
hepgor yr ail 'i'.
Byddwn yn falch o gael ateb!
> Iawn!
> Dw i ar fy ffordd!!
>
> Siân
>
> On 3 Apr 2012, at 13:37, David Bullock wrote:
>
>> Mae’n fenthyciad, ond mae’r patrwm yn un digon naturiol:
>>
>> Hoffwn i annog Siân i fynd, hoffwn i sbarduno Siân i fynd, hoffwn i
>> ysbrydoli Siân i fynd, hoffwn i orfodi Siân i fynd, hoffwn i helpu
>> Siân i fynd.
>>
>>
>> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran/On
>> Behalf Of *anna gruffydd
>> *Sent:* 03 Ebrill 2012 13:05
>> *To:* [log in to unmask]
>> <mailto:[log in to unmask]>
>> *Subject:* Re: Helpu
>>
>>
>> 'Helpu i' dwi wedi'i glwad erioed - ella am mai benthyciad ydi o, dwn
>> i ddim, ours not to reason why...
>>
>> Anna
>>
>> 2012/4/3 Beryl H Griffiths <[log in to unmask]
>> <mailto:[log in to unmask]>>
>> Os gwelwch chi’n dda a wnaiff rhywun fy helpu? Mae gen i gwestiwn
>> sydd yn fy mhoeni yn fawr ar y funud wrth ddefnyddio’r ferf helpu.
>> Mae fy ngreddf yn dweud wrthai bod angen i ar ei ôl wrth ddweud, er
>> enghraifft, helpu i leihau rhywbeth. Dwi’n gwybod ein bod bob amser
>> yn ceisio cofio osgoi defnyddio’r ‘i’ fondigrybwyll, ond mi fyddai
>> ‘helpu gweld’, ‘helpu agor’ yn taro fy nghlust i yn ddieithr iawn.
>> Ydwi’n iawn yn meddwl mai arddodiad ydi i yn fan hyn, ac felly bod
>> gennym hawl i’w defnyddio? Neu ydwi wedi methu’n llwyr?
>>
>> Beryl
>>
>>
>>
>
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
--
Rhif Elusen Gofrestredig / Registered Charity No. 1141565
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys
deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y
cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon
trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilëwch y neges. Os
na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw
neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu
safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn
cynrychioli barn Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu bod y
neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn
ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr
e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae
rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Bangor.
www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and is
solely for the use of the intended recipient(s). If you have received this
email in error, please notify the sender immediately and delete this email.
If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or
disclose any information contained in this email. Any views or opinions are
solely those of the sender and do not necessarily represent those of Bangor
University.
Bangor University does not guarantee that this email or any attachments are
free from viruses or 100% secure. Unless expressly stated in the body of
the text of the email, this email is not intended to form a binding contract
- a list of authorised signatories is available from the Bangor University
Finance Office. www.bangor.ac.uk
|