Fe'm dysgwyd flynyddoedd nôl i ysgrifennu "mae'n anodd ei ddeall" yn lle "mae'n anodd i'w ddeall". Mae'r esboniad, os cofia' i'n iawn, yn ymwneud â swyddogaeth enwol neu ferfol y berfenw. Er hynny, mae nifer o ysgrifenwyr da yn arddel "mae'n anodd i'w ddeall".
Fy nghwestiwn ichi felly, wrth gyfieithu "it's difficult to understand him/it", beth fyddech chi'n ei ddewis a pham?
Diolch.
Owen
|