"All correspondence and discussions are conducted entirely on a without prejudice basis"
Hyd y gwelaf i, mae hyn yn golygu na chaniateir defnyddio'r ohebiaeth na'r trafodaethau fel tystiolaeth yn y llys heb ganiatâd y ddwy ochr.
"Heb Ymrwymiad" a roddir yng Ngeiriadur Newydd y Gyfraith - heb unrhyw esboniad.
Ond mewn trafodaeth yma o'r blaen, cynigiwyd "rhagfarnu achos" am "to prejudice a case"
Diolch
Siân
|