Felly - er mwyn yr archif - be oedd y cyfieithiad a gynigiaist yn wreiddiol,
rwyt ti wedi cael caniatâd i'w ddefnyddio?
----- Original Message -----
From: "Iwan Williams (ABM ULHB - Corporate Services)"
<[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, March 27, 2012 9:45 AM
Subject: ATB/RE: Incidence a prevalence
> Newydd siarad â'r person oedd yn gyfrifol am y cynnwys gwreiddiol nawr ac
> wedi cael caniatâd i ddefnyddio'r cyfieithiad a gynigiais yn wreiddiol
> (heb y termau Saesneg mewn cromfachau).
>
> Yn amlwg fe fyddai'n dda cael termau safonol am y ddau ystyr, ond yn yr
> achos yma mae'r ddau le yr wyf fel rheol yn mynd i edrych am dermau o'r
> fath - TermCymru a'r Porth Termau - yn gwrth-ddweud ei gilydd mor llwyr
> fel ei bod yn anodd iawn gwybod pa rai i'w dewis.
>
> Iwan
>
> -----Neges Wreiddiol/Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Dafydd
> Lewis
> Sent: 27 Mawrth 2012 03:14
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: ATB/RE: Incidence a prevalence
>
> Dyna mae'r termau yn ei olygu Iwan, ac rwyn cydweld ei bod yn anodd dewis
> termau Cymraeg sy'n gwahanu rhyngddynt.
>
> Yn bersonol byddaf yn tueddu cymryd bod 'mynychder' yn golygu 'faint mor
> fynych' ydyw rhywbeth sydd eisoes yn bodoli, ond efallai y dylid
> defnyddio'r ffurf a gynigaist ar y cychwyn.
>
> Fodd bynnag, mi fyddai'n ddefnyddiol cael termau safonol am y ddau ystyr
> rhyw dro, wrth eu bod mor sylfaenol.
>
> Dafydd
>
>
> Subject:
> ATB/RE: Incidence a prevalence
>
> From:
> "Iwan Williams (ABM ULHB - Corporate Services)"
> <[log in to unmask]>
>
> Reply-To:
> Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> <[log in to unmask]>
>
> Date:
> Mon, 26 Mar 2012 09:10:51 +0100
>
> Content-Type:
> text/plain
>
> Parts/Attachments:
> text/plain (1 lines)
>
>
> Reply
>
>
> Dwi'n gyndyn i ddefnyddio 'mynychder' am y naill derm na'r llall gan bod
> cymaint o amwysedd ynglŷn â pha un mae'n ei olygu - mae'n golygu
> 'incidence' yn ôl TermCymru a'r llyfr 'Termau Meddygol', 'prevalence' yn
> ôl y Porth Termau, a'r ddau yn ôl Geiriadur yr Academi! 'Nifer achosion'
> sydd ar TermCymru am 'prevalence' ond fe allai hwnnw hefyd olygu'r naill
> neu'r llall, ac ar ôl darllen yr esboniad ar wefan yr RCN fe fydden i'n
> meddwl efallai bod hwnnw'n agosach at 'incidence'. Oes rhywun â chefndir
> meddygol neu ystadegol a all gadarnhau fy mod wedi deall yr ystyron yn
> gywir?
>
> Iwan
>
> -----Neges Wreiddiol/Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Dafydd
> Lewis
> Sent: 24 Mawrth 2012 03:36
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: ATB/RE: Incidence a prevalence
>
> Rwy'n cydweld ag Iwan ond mi fyddwn i'n defnyddio 'mynychder' am
> 'prevalence:
>
> Yn wahanol i’r mwyafrif o wasanaethau ysbyty, mae’r galw am wasanaethau
> ‘Meddygaeth Arennol’ yn dibynnu ar fynychder clefydau arennol yn hytrach
> na’r nifer o achosion newydd.
>
> Dafydd
>
>
>
>
>
> On Fri, 23 Mar 2012 16:16:05 +0000, Iwan Williams (ABM ULHB - Corporate
> Services) <[log in to unmask]> wrote:
>
>>O beth alla i ei ddeall, mae'r frawddeg yn dweud rhywbeth tebyg i hyn:
>>
>>Yn wahanol i'r mwyafrif o wasanaethau ysbyty, mae'r galw am wasanaethau
>>'Meddygaeth Arennol' yn dibynnu ar y nifer o bobl sydd eisoes yn dioddef o
>>glefydau arennol ar unrhyw adeg, yn hytrach na'r nifer o achosion newydd
>>sy'n codi.
>>
>>Dwi'n meddwl bod hynna'n weddol agos at gyfleu'r ystyr, ond mae e mor bell
>>oddi wrth y geiriad yn y Saesneg fel fy mod yn gyndyn braidd i'w alw'n
>>gyfieithiad.
>>
>>Iwan
>>
>>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>>[mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Ann
>>Corkett
>>Sent: 23 Mawrth 2012 16:05
>>To: [log in to unmask]
>>Subject: Re: Incidence a prevalence
>>
>>Nid yw Bruce yn ymwybodol o unrhyw fwriad y tu ol i'r gwahaniaeth sillafu.
>>O edrych yn GPC, ceir "mynychder" a "mynychdra" yn unig (nid y fersiynau
>>gyda "t").
>>
>>Mae'n swnio fel un o'r achlysuron 'na lle nad yw'r Gymraeg wedi gorfod
>>gwahaniaethu mor fanwl o'r blaen.
>>
>>Gallaf ddeall y disgrifiad o'r wefan - jyst abowt - ond hyd yn oed wedyn
>>ni allaf ddeall y frawddeg sydd gennych yn dda iawn. 'Tasech chi'n medru
>>ei hegluro i mi mewn geiriau eraill, efallai byddech hanner ffordd at
>>gyfieithiad (hyd yn oed os bydd angen rhoi'r geiriau Saesneg mewn
>>cromfachau).
>>
>>Ann
>>________________________________
>>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>>[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Iwan Williams
>>(ABM ULHB - Corporate Services)
>>Sent: 23 March 2012 14:57
>>To:
>>[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>
>>Subject: Incidence a prevalence
>>
>>Oes geiriau Cymraeg gwahanol yn cael eu harddel am y ddau derm meddygol
>>yma? Dwi'n meddwl fy mod i'n deall y gwahaniaeth rhwng y cysyniadau
>>(gweler y link isod) ond ddim yn gwybod lle i ddechrau gyda dewis geiriau
>>Cymraeg cyfatebol. Mae 'mynychder' yng Ngeiriadur yr Academi ar gyfer y
>>ddau ohonynt, ond gyda sillafiad gwahanol (yw hyn yn fwriadol?).
>>
>>Tra 'mod i wrthi beth yw 'Established Renal Failure' hefyd - mae'r cyfan
>>yn digwydd yn yr un frawddeg erchyll isod :
>>
>>In contrast to the majority of hospital services, managing a 'Renal
>>Medicine' service is driven by prevalence (of Established Renal Failure)
>>rather than incidence of disease.
>>
>>Mae eglurhad da iawn o'r gwahaniaeth rhwng y ddau i'w weld yma:
>>http://www.rcn.org.uk/__data/assets/pdf_file/0018/9216/Incidence_prevalence.pdf
>>
>>Diolch ymlaen llaw am unrhyw oleuni,
>>
>>Iwan
>>
>>
>
>
>
>
|