Mae Bruce a finnau newydd fod ar y ffon at Gruffydd Aled Williams erystwyth
ynghylch hyn.
Mae "Coed Hyrddyn" ar arwydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (llun ar
Youtube), meddai fo, ac ar y map Ordnans Survey (dim yn awdurdod dibynadwy
iawn), ond "Coed Hyrddin" sydd yn yr hen farddoniaeth (mae o'n son am un
enghraifft lle mae'n odli a "gwin"), ac mae modd edrych yr enw yn archif
Melville Richards hefyd. Mae Melin Coed Hyrddin ger Pentraeth hefyd. Mae o
a Bruce yn cymeradwyo "Hyrddin" fel y sillafiad gwreiddiol, ond yn methu
meddwl beth fyddai'r ystyr "hwrdd bach" efallai, prin "mullet" (yr ystyr
arall amlwg)yn Llangollen o leiaf.
Lol yw'r cyfeiriad at "hir ddyn" medden nhw.
Ann
Original Message:
-----------------
From: Neil Shadrach [log in to unmask]
Date: Fri, 30 Mar 2012 09:53:26 +0100
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Velvet Hill
"Velvet Hill gets its name from the soft texture of the sheepcropped grass
and moss. Its Welsh name, Coed Hyrddyn, means ‘wood of the long man’ and
may relate to the tall skeleton unearthed beneath nearby Eliseg’s Pillar."
http://www.deevalleywalks.com/llangollen.htm
https://www.google.co.uk/search?ix=seb&sourceid=chrome&ie=UTF-8&q=%22Coed+Hy
rddyn%22&safe=active
2012/3/30 megan tomos <[log in to unmask]>
> Tybed a fyddai Gwyn Jones Bwrdd yr Iaith gynt yn gwybod? Bu'n gweinyddu
> Panel Enwau Lleoedd y Bwrdd ac yn byw yn yr ardal pan oedd yn ifanc.
>
> Megan
>
> *From:* Sian Jones <[log in to unmask]>
> *To:* [log in to unmask]
> *Sent:* Friday, 30 March 2012, 9:15
> *Subject:* Velvet Hill
>
> Bore da!
>
> Wyddoch chi a oes enw Cymraeg i 'Velvet Hill' yn Llangollen? Mae rhwng
> Eglwys Llantysilio ac Abaty Glyn y Groes.
>
> Diolch am unrhyw gymorth,
>
> Sian
>
>
>
--------------------------------------------------------------------
mail2web - Check your email from the web at
http://link.mail2web.com/mail2web
|