Mae hyn yn broblem oeseol, wastad gyda ni am bob math o resymau hanesyddol. Yn fy mhrofiad i, bach iawn o ddealltwriaeth sydd gan y cyhoedd (gan gynnwys rhai a gafodd flynyddoedd - degawdau, weithiau - o addysg)o ddogfennau ffurfiol a swyddogol yn Saesneg. Ond mae trwch y boblogaeth wedi cynefino â'r cyflwr hwn, fel y maent wedi dod i arfer - ac i ymfalchio ynddi, weithiau - o'u hanwybodaeth o fathemateg.
Mi fentrwn i sofrin neu ddwy y byddai llawer o bobl, o weld y gair 'peers', yn gweld y corws o 'Iolanthe'. A'r ymateb clasurol, o gael eu holi ynghylch ystyr gair fel 'significant', fyddai cwympo'n ôl ar ail-adrodd. Mae gan C.S. Lewis ryw sylwadau treiddgar ar y mater yn rhywle. Ceisiaf gael hyd i'r ysgrif.
Yn iach,
Tim
Tim Saunders
Cyfieithydd Translator
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough Council
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 22 March 2012 14:19
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: significant
Dwi'n meddwl y byse pobl yn fwy cyndyn o gyfadde nad ydyn nhw'n deall "significant" nag "arwyddocaol".
Mae'n anodd gwybod pa mor bell i fynd lawr y lôn yma.
Fel roedd hi'n digwydd, roedd "pwysig" yn ffitio cystal os nad gwell nag "arwyddocaol" ac roedd modd aralleirio'r "cyfoedion" i sôn am bobl ifanc.
Siân
On 22 Mawrth 2012, at 14:08, Carolyn wrote:
> Fyddai hi'n ddiddorol gwybod ydy pobl gyffredin sy'n darllen y Saesneg
> yn deall ystyr 'peers' ac ydyn nhw'n rhoi eu fersiynau Saesneg ar
> brawf
>
> Carolyn
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From:
> Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts
> Anfonwyd/Sent: 22 Mawrth 2012 13:48
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: significant
>
> Ges i neges y bore 'ma gan ddylunydd yn dweud rhywbeth fel
>
> "The client has come back to us to say that none of their Welsh
> speakers recognise the following two words:
>
> arwyddocaol and gyfoedion
>
> Are you able to offer a different translation for these please?"
>
> Mewn un ffordd, ro'n i'n drist, wrth gwrs, ond mewn ffordd arall ro'n
> i'n falch eu bod nhw wedi codi'r peth - o leia dwi'n gwybod lle dwi'n
> sefyll! A dwi'n cymryd bod hynny'n golygu eu bod nhw'n deall y
> gweddill!
>
>
> Siân
This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation
For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol.
I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad
|