Mynd yn ddiymadferth?
Llŷr
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 19 March 2012 10:55
To: [log in to unmask]
Subject: collapse
Rwy'n cyfieithu llyfryn i'r cyhoedd yn sôn am afiechydon y galon - trawiad ar y galon/methiant y galon. Mae darn am gymorth cynta yn dweud "What to do if someone collapses".
Wela i ddim byd addas yn y geiriaduron am "collapse":
GyrA: cwympo, syrthio, disgyn, ... (of person): llewygu, mynd i lewyg, N: cael gwasgfa, S:occ: cael haint, pango (of patient): diffygio, gwanhau Porth Termau: ymgwympo
Dwi'm yn ddigon siwr beth yn union yw cael "gwasgfa" (Gog.) ac, ar bapur, byddai "cael haint" yn swnio fel cael "infection".
Rwy'n sylwi bod y newyddion yn dweud mai "llewygu" wnaeth y peldroediwr dydd Sadwrn - ond i mi "faint" yw "llewygu" - When you faint, you will feel weak and unsteady before passing out for a short period of time, usually only a few seconds...
Fyddai "cwympo'n anymwybodol" yn cyfleu'r ystyr? - dwi ddim yn siwr oes raid i chi fod yn anymwybodol, chwaith
"Colapsio", am wn i, fyddai'n cyfleu'r ystyr gliriaf i bobl. Ie?
Diolch
Siân
|