Y term a ddefnyddir yn bendant yn ardaloedd Penllyn ac Edeyrnion (a hefyd yn
ne Meirionnydd, ynghyd â nifer o fannau eraill siwr o fod, am a wn i) yw
'GOTEL'.
Daw tarddiad y gair o'r Saenseg 'Go to Hell'. Gellir ysgrifennu llyfr am y
defnydd helaeth o'r term difyr hwn ym myd ffermio'r parthau y cyfeiriwyd
atynt uchod (os nad oes rhywun eisoes wedi gwneud hynny); oherwydd y mae'n
'faes' eithriadol o ddiddorol! Darn o dir o fawr werth i ddim (yn sicr ddim
i'w amaethu fel y cyfryw - oherwydd ei fod yn garegog / yn serth / yn ddrain
a mieri a danadl poethion /... ), fel arfer yn lled agos at adeiladau'r
fferm. Fe'i cedwid yn benodol at y diben o daro ynddo anifail neu nifer
fechan yn unig o anifeiliad - naill ai dros dro am gyfnod byr iawn (megis
corlan neu 'coral' lle y gellid cadw golwg glos arnynt am sbel), neu i roi
ynddo anifail oedd yn dioddef ryw salwch (lle y gellig gobeithio ei wella
drwy roi iddo driniaeth dan oruchwyliaeth agos). Weithiau rhoddid yn Y
Gotel anifail anystywall', megis ryw hwrdd a fynnai wthio ei ffordd drwy bob
clawdd ymhob cae arall. I anifail felly roedd y Gotel yn ryw fath o
Alcatraz nad oedd dianc ohono, lle y gellid 'gwareiddio' y dihirun dros
gyfnod o amser, cyn ei ollwng yn ôl at y praidd / y fuches, pan fyddai wedi
dod ato ei hun. Hwyrach mai'r dyna'r defnydd mwyaf cyffredin a geid o'r
Gotel.
Drwy estyniad, defnyddir y term yn gyson ymhlith ffermwyr ar lawr gwlad, yn
drosiadol ac yn gellweirus felly, ymhlith ei gilydd; a rhaid i chi fod yn
deall ystyr y gair Gotel cyn y medrwch chi werthfawrogi'r jôc.
Eurwyn.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 30 March 2012 12:10
To: [log in to unmask]
Subject: rubbish land
Dw i ddim yn siwr ydi hwn yn derm "swyddogol".
Dwi'n meddwl ei fod yn cyfeirio at dir sy'n waeth na "poor land" ar fferm.
Diolch
Siân
|