O diar - 'cant a deugeinfed namyn saith' ddyla hwnna fod. Mae hwnna
dipyn bach yn fwy trwsgl, tydy?
Er hynny, o gymharu'r ddau:
'Dyna'r cant a deugeinfed namyn saith person i gerdded trwy'r drysau
hyn heddiw.'
'Dyna'r cant tri deg trydydd person i gerdded trwy'r drysau hyn heddiw.'
Dydy'r ail ddim yn swnio'n Gymreig rywsut.
2012/2/13 Eluned Mai <[log in to unmask]>:
> Mae'r gair 'namyn' yn air bach twt ac mae 'cant a deugain namyn saith'
> yn swnio'n llawer gwell i mi na 'chant tri deg trydydd'. Mae'n
> golygu, wrth gwrs, bod rhaid gwneud syms ar ein traed ond mae'n ffordd
> go lew o gadw'r meddwl yn heini. Mantais arall i atgyfodi hen eiriau
> - ar lafar!
>
> Hwyl
> Eluned
>
> 2012/2/13 Dewi Williams <[log in to unmask]>:
>> Helo Iwan,
>> Canllawiau Ysgrifennu Cymraeg ar gyfer Gwaith a Swyddfa, Ysgol, Coleg a
>> Chartref, J. Elwyn Hughes, (Bwrdd yr Iaith Gymraeg, GOMER, 2006)
>> Unedau 11.7 - 11.9
>>
>>
>> 40th pedwar degfed
>> 41st pedwar deg unfed
>> 42nd pedwar deg eilfed
>> 43rd pedwar deg trydydd / trydedd
>> 44th pedwar deg pedwerydd / pedwaredd
>> 45th pedwar deg pumed
>> 46th pedwar deg chweched
>> 47th pedwar deg seithfed
>> 48th pedwar deg wythfed
>> 49th pedwar deg nawfed
>> 50th pum degfed
>> 99th naw deg nawfed
>> 133rd cant tri deg trydydd / trydedd
>>
>> Dim cysylltnodau
>>
>> Dewi
>> ________________________________
>> Date: Mon, 13 Feb 2012 15:50:44 +0000
>> From: [log in to unmask]
>>
>> Subject: Erchyll Broblem y Trefnolion
>> To: [log in to unmask]
>>
>>
>> Codi trafodaeth - trafodaeth sydd wedi bod yn barod o bosib' - be' wneir
>> â'r rhein?
>>
>> Mi wn yn iawn be' ydy' hen ddull. Yn gam neu'n gymwys hyd yn oed wrth siarad
>> pob dydd mae'n anodd deud fod rhywun yn yn "drydydd ar ddeg ar hugain wedi'r
>> cant" yn hytrach na deud bod rywun yn "hyndryd and thyri thyrd". (Mae hyn yn
>> rhannol am fod yr iaith wedi dirywio, a'r hen ddull cyfri' yn cael ei
>> ddefnyddio'n rhannol yn unig). Mae deud "safle cant tri deg tri" yn swnio'n
>> blastig, ond wedyn mae "cant tri-deg-trifed" yn dra chwithig. Wrth
>> ddefnyddio "-fed" mae'n haws hefo rhai rhifau.2,3,4 ydy'r mwyaf trwsgl yn
>> enwedig am fod pedwar yn ddeusill. Mae "pedwar-deg-pedwarfed" yn o anodd i'w
>> dreulio tra "pedwar-deg-wythfed" yn well. Y rheswm am hynny mae'n siŵr yw
>> mai "-ydd" fyddai hefo 3 a 4. A ddylid cynnig llunio "pedwar-deg-pedwerydd"
>> ? - ydy mae hwnna'n swnio'n gloff ond fymryn yn well na
>> "phedwar-deg-pedwarfed". Ond beth am 2? "Pedwar-deg-daufed/deufed"
>> "pedwar-deg-ail" - swnio'n ddifrifol. Ynteu dychwelyd i gragen buryddol
>> ddiogel, a theimlo bod rhywun yn siarad fel llyfr ? Problemau iaith sy'n
>> dirywio ?
>>
>> Cyfieithu traethiadau am rasys sydd wedi peri gyrru'r druth hon. (Nid wyf yn
>> disgwyl ateb terfynol.)
|