Mi fuaswn i'n dueddol o chwilio am ddyfyniadau cynhenid Cymraeg sy'n dweud mwy neu lai yr un peth(ac yn dyfynnu'r ffynhonnell hefyd,i bobl gael deall nad yn Saesneg yn unig y ceir dyfyniadau cofiadwy!)
Sent from my BlackBerry® wireless device
-----Original Message-----
From: Rhodri Owain <[log in to unmask]>
Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
Date: Mon, 13 Feb 2012 11:08:39
To: <[log in to unmask]>
Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
Subject: Cyfieithu dyfyniadau
Bore da bawb,
Dwi mewn ychydig o benbleth y bore ma ac mae arna'i angen barn y cylch os gwelwch yn dda.
Mae gennyf bosteri i'w cyfieithu sy'n ceisio annog myfyrwyr i sefyll yn etholiadau'r Undeb Myfyrwyr i fod yn swyddogion y flwyddyn nesaf. Mae yna dri phoster a'r peth amlyca' ar bob un ohonynt yw dyfyniad o'r llyfr 'Great Minds, Great Quotes'. Fy ngreddf yw eu cyfieithu gan eu bod mor amlwg ar y posteri, ond mae Arddulliadur y Cynulliad yn argymell i beidio cyfieithu dyfyniadau o ddeunyddiau sydd wedi'u cyhoeddi. Felly a ddylwn eu gadael yn y Saesneg? Dyma'r dyfyniadau:
“Believe in yourself and all that you are. Know that there is something inside that is greater than any obstacle”
C. Larson, Great Minds, Great Quotes
“The world is full of willing people, some willing to work, the rest willing to let them”
R.Frost, Great Minds, Great Quotes
“If you don’t go after what you want, you’ll never have it. If you don’t ask, the answer is always NO. If you don’t step forward, you’re always in the same place”
N. Roberts, Great Minds, Great Quotes
Beth yw barn y cylch ar hyn?
Diolch ymlaen llaw,
Rhodri
|