O feddwl wedyn, tydi 'cot' a 'haen' ddim yn mynd i weithio fel pennawd i'r
tabl os wyt ti'n sôn am y peiriannau newydd sy'n chwistrellu slyri i'r
ddaear mewn rhesi - chwistrelliad fyddai hynny mae'n siwr ynde. Neu taeniad?
Chwistrellu ydi'r dull sy'n cael ei argymell y dyddie yma gan fod na lai o
siawns o lygru ffosydd ac ati.
Rhian
-----Original Message-----
From: Sian Roberts
Sent: Saturday, January 07, 2012 12:15 AM
To: [log in to unmask]
Subject: dom da
1) Beth fyddai'r gair gorau am "muck" - term ymbarel a all gynnwys "manure"
a "slurry"?
2) Mae GyrA yn rhoi "biswail" am "slurry" ond TermCymru a Thermau Asiantaeth
yr Amgylchedd yn rhoi "slyri" bob tro. Oes 'na reswm? Mae Cydymaith Byd
Amaeth yn cyfeirio at y ddau heb groesgyfeirio ond maen nhw'n swnio'n eitha
tebyg. Awgrym bod biswail yn arfer cael ei ddefnyddio am dom sychach ond
erbyn hyn ei fod yn cael ei ddefnyddio am stwff mwy gwlyb?
3) Wedyn, beth am "application" i sôn am sgwaru tail. Mewn penawdau tablau y
mae'n digwydd felly does dim lle i chwarae. Rhywbeth fel "dos" neu "cot"
fyddai'n dda.
Diolch
Siân
|