Bore da bawb,
Teitl ar gyfer digwyddiad sy'n rhoi cyngor i fyfyrwyr ar lety. Cynhelir y diwrnod ar ddydd Sant Ffolant felly mae angen cadw'r elfen 'heart' yn y cyfieithiad. Dwi wedi edrych yn yr archifau ac un o'r awgrymiadau a gafwyd o'r blaen oedd 'Lle bo'r galon, bydd cartref'. Dwi yn hoff o hwnnw, ond meddyliais waeth mi ofyn i bawb eto rhag ofn gall rhywun feddwl am rywbeth gwell.
Diolch yn fawr,
Rhodri
|