Newydd ddod o hyd i'r neges hon yn y blwch 'Junk' - eto!
Mae'n debyg bod 'slurry' yn cynnwys mwy na phiswail (sef yr hyn mae'r anifail yn ei gynhyrcbu, fel rheol ar ffurf hylif). Yr hyn yw 'slurry' yw hynny ynghyd ag unrhyw beth arall sy'n cael ei olchi o'r parlwr godro a'r clos/buarth, ac ati. Dyna pam mae TermCymru yn defnyddio 'slyri'.
Hyd y gwela i, mae 'muck' yn golygu hyn i gyd ond ar ffurf solet, felly, beth am 'dom' am 'muck' a chadw 'tail' am 'manure'?
So^n am drafodaeth ddifyr ar ddydd Sadwrn!
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 07 January 2012 00:16
To: [log in to unmask]
Subject: dom da
1) Beth fyddai'r gair gorau am "muck" - term ymbarel a all gynnwys "manure" a "slurry"?
2) Mae GyrA yn rhoi "biswail" am "slurry" ond TermCymru a Thermau Asiantaeth yr Amgylchedd yn rhoi "slyri" bob tro. Oes 'na reswm? Mae Cydymaith Byd Amaeth yn cyfeirio at y ddau heb groesgyfeirio ond maen nhw'n swnio'n eitha tebyg. Awgrym bod biswail yn arfer cael ei ddefnyddio am dom sychach ond erbyn hyn ei fod yn cael ei ddefnyddio am stwff mwy gwlyb?
3) Wedyn, beth am "application" i sôn am sgwaru tail. Mewn penawdau tablau y mae'n digwydd felly does dim lle i chwarae. Rhywbeth fel "dos" neu "cot" fyddai'n dda.
Diolch
Siân
|