Ie, sbo, rodd Seimon y Swynwr ar Slot Meithrin slawer dydd.
Treio meddwl beth fyddai pobl yn debygol o'i ddweud.
Alla i ddim dychmygu mynd i siop a gofyn "Sgynnoch chi gyfareddwr?"
na "Dwi'n chwilio am benwisg gyfareddol"
Nac "Oes swynwr 'da chi?" chwaith o ran hynny!
Oes rhywun wedi sylwi beth sy'n cael ei ddefnyddio mewn adroddiadau
priodasau mewn papurau bro?
Siân
On 30 Tach 2011, at 11:15, Geraint Lovgreen wrote:
> Dwi'm yn gweld bod 'swynwr' yn fwy hygyrych na 'cyfareddwr' fy hun.
>
> Mae 'swynwr' yn gwneud i mi feddwl am gonsuriwr.
>
> Wedi dweud hynny, mae 'cyfareddwr' braidd yn debyg i 'cyfarwyddwr'.
>
> ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, November 30, 2011 8:55 AM
> Subject: Re: Fascinator
>
>
> Ie - ond mae'n annhebygol y caiff yr un o'r ddau eu defnyddio'n
> naturiol ar lawr gwlad.
>
> Rwy'n gwybod y gellir dadlau bod "fascinator" wedi ennill ei blwyf ac
> nad yw pobl yn mynd i ddefnyddio gair Cymraeg o gwbl ond rwy'n meddwl
> bod "swynwr" yn fwy 'hygyrch' ac mae hynny'n help, siwr o fod.
>
> Roedd gan Eleri Siôn swynwr reit drawiadol ar y rhaglen o'r Sioe Aeaf
> neithiwr!
>
> Hwyl
>
> Siân
>
>
>
> On 30 Tach 2011, at 00:47, Ann Corkett wrote:
>
>> Bu trafodaeth ar 18 Mehefin 2008; y prif gynigion oedd "cyfareddwr" a
>> "penwisg [gyfareddol]".
>>
>> Ann
>>
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>> vocabulary
>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian
>> Roberts
>> Sent: 30 November 2011 00:14
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: Fascinator
>>
>> Hwn wedi codi ar twitter.
>>
>> Beth am "swynwr"? Dwi'n ei licio fe - hawdd i'w ddweud ac mae'n
>> cyfleu
>> ystyr y gwreiddiol.
>>
>> Siân
|