Fyse "het ochr pen" yn reit neis - heblaw bod "ochr pen" yn golygu
clowten ffordd hyn.
"Het fach blu"?
Newydd weld cynnig Meinir - "ffifflen" - Da!!
Siân
On 30 Tach 2011, at 13:25, Ann Corkett wrote:
>> Roedd gan Eleri Siôn swynwr reit drawiadol ar y rhaglen o'r Sioe Aeaf
> neithiwr!
>
> Swnio fel petai ei bod hi wedi cael gafael yn nipyn o bishyn!
>
> Alla i ddim dweud fy mod i'n fodlon ar y cynigion y tro diwethag
> chwaith.
> 'Taswn i'n mynd i mewn i siop i holi, mae'n debyg y buaswn i'n
> gofyn am "un
> o'r hetiau bach 'na o blu a les a'r nesa peth i ddim" neu rywbeth
> tebyg.
>
> Ann
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 30 November 2011 08:56
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Fascinator
>
> Ie - ond mae'n annhebygol y caiff yr un o'r ddau eu defnyddio'n
> naturiol ar lawr gwlad.
>
> Rwy'n gwybod y gellir dadlau bod "fascinator" wedi ennill ei blwyf ac
> nad yw pobl yn mynd i ddefnyddio gair Cymraeg o gwbl ond rwy'n meddwl
> bod "swynwr" yn fwy 'hygyrch' ac mae hynny'n help, siwr o fod.
>
> Roedd gan Eleri Siôn swynwr reit drawiadol ar y rhaglen o'r Sioe Aeaf
> neithiwr!
>
> Hwyl
>
> Siân
>
>
>
> On 30 Tach 2011, at 00:47, Ann Corkett wrote:
>
>> Bu trafodaeth ar 18 Mehefin 2008; y prif gynigion oedd "cyfareddwr" a
>> "penwisg [gyfareddol]".
>>
>> Ann
>>
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>> vocabulary
>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian
>> Roberts
>> Sent: 30 November 2011 00:14
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: Fascinator
>>
>> Hwn wedi codi ar twitter.
>>
>> Beth am "swynwr"? Dwi'n ei licio fe - hawdd i'w ddweud ac mae'n
>> cyfleu
>> ystyr y gwreiddiol.
>>
>> Siân
|