Dwi'm yn meddwl taw'r Saesneg yw'n batrwm cyfatebol i'w dilyn. Dwi'n
cymryd "me" yn "mail me" fel indirect object (wn i ddim y term Cymraeg)
er nad oes gwrthrych uniongyrchol i'w weld; h.y. "mail me [a
message]". Ond mae'r Gymraeg yn wastad yn defnyddio arddodiad i gyfleu
indirect object, ai "i" 'te "at".
--Mark
On 10/12/2011 09:30 AM, Gwen Rice wrote:
> Yn dilyn patrwm y Saesneg hefyd (sut bynnag mae dyn yn teimlo am
> hynny!). Rwy'n gweld "mail me" ac "e-mail me" yn eithaf aml, y ddau yn
> ystyr "e-bostio". Fyddwn i ddim yn dehongli "mail me" fel "postiwch
> lythyr ataf i" etc.
> Diddorol iawn, a diolch eto.
> Gwen
>
>
> -----Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> <[log in to unmask]> wrote: -----
>
> To: [log in to unmask]
> From: David Bullock
> Sent by: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> Date: 10/12/2011 02:28PM
> Subject: ATB/RE: to
>
> Eto i gyd, fe fyddai ‘tecstia fi’ neu ‘atgoffa fi’ yn awgrymu bod
> ‘e-bostia fi’ yn ddigon synhwyrol hefyd, am wn i?
>
> *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran/On
> Behalf Of *Claire Richards
> *Sent:* 12 Hydref 2011 14:10
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* Re: to
>
> Dwi’n cytuno, Carolyn. Fyddwn i byth yn dweud fy mod i wedi ‘postio’
> rhywun – wel, oni bai ’mod i /wedi’i /stwffio i mewn i focs post.
> Felly fyddwn i ddim yn dweud ’mod i wedi ‘e-bostio’ rhywun, chwaith.
>
> Claire
>
> *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf
> Of *Carolyn
> *Sent:* 12 October 2011 14:08
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* ATB: to
>
> Dw i ddim yn rhy hoff o 'e-bostiwch' ac enw rhywun/lle yn dilyn
> achos mae'n swnio fel tasen nhw'n mynd i gael eu hebostio - ond ella
> mai fi sy'n od!
>
> Carolyn
>
> ------------------------------------------------------------------------
>
> *Oddi wrth/From:*Discussion of Welsh language technical terminology
> and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran
> *Rhian Huws
> *Anfonwyd/Sent:* 12 Hydref 2011 14:02
> *At/To:* [log in to unmask]
> *Pwnc/Subject:* Re: to
>
> Mae ‘e-bostiwch’ yn handi weithiau os am osgoi defnyddio ‘i’ neu ‘at’.
>
> Rhian
>
> *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf
> Of *anna gruffydd
> *Sent:* 12 October 2011 14:00
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* Re: to
>
> Tybed a ellid deud mai cyfeiriada ydyn nhw i gyd er bod rhai'n
> digwydd dechra ag enw rhywun? Felly 'i'? Dwn i ddim, jyst gofyn.
>
> Anna
>
> 2011/10/12 Gwen Rice <[log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>>
>
> Annwyl Gyfeillion
>
> O ran gwahaniaethu rhwng "i" ac "at" ar ôl geiriau megis "anfon",
> "e-bostio" ac ati, ai'r argymhelliad yw cadw'n syml at "i" i
> sefydliadau etc ac "at" ar gyfer pobl hyd yn oed gyda chyfeiriadau
> e-bost?
>
> Y cyd-destun sydd gen i yw "send" ac "e-mail forms to ...", wedyn
> cyfeiriadau e-bost. Mae rhai yn iawn - byddwn yn rhoi "anfon e-bost
> at John.Jones@hotmail...", neu "i enquiries@hotmail" etc, ond mae
> gen i hefyd gyfeiriadau fel "academicmanager@...",
> "studentrepresentatives@" etc (h.y teitlau unigolion). A ddylid
> gwahaniaethu'n glir ynteu a yw cysondeb yn ffactor mewn amgylchiadau
> o'r fath?
>
> Diolch am unrhyw gyngor.
>
> Cofion
>
> Gwen
>
> ------------------------------------------------------------------------
>
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com <http://www.avg.com/>
> Version: 2012.0.1831 / Virus Database: 2090/4547 - Release Date:
> 10/11/11
>
|