Meddai Anna Gruffydd:
> diffiniad Encyclopaedia Britannica: Initially, in the 12th century, the cycles were presented on a series of
> decorated platforms known as houses or mansions, following the type of layout established in the liturgical
> drama, with each representing a particular location.
Cyfeiriad sydd yma at y dramâu gwyrth (miracle plays) a fyddai'n cael eu perfformio mewn dinasoedd a threfi yn Lloegr ar ddiwrnod un o'r prif Wyliau eglwysig yn y cyfnod canoloesol, nes i'r arfer gael ei wahardd yn ystod Diwygiad Harri VIII.
Dw i'n cymryd, felly, fod yr enw 'mansions' yn gyfeiriad at Efenglyl Ioan 14:2 — "In my Father's house are many mansions" ym Meibl Brenin Iago. Yn y Beibl 'Revised Standard', fodd bynnag, y cyfieithiad yw "In my Father's house are many rooms".
Ond mae Beibl William Morgan a'r Beibl Cymraeg Newydd ill dau'n defnyddio'r cyfieithiad "Yn nhy fy Nhad y mae llawer o drigfannau".
Trigfan/trigfannau amdani, felly?
Wyn
|