Dwi wedi'i gael o!
Mae 'cyndreialu' er enghraifft yn golygu treialu rhywbeth CYN ei gyflwyno
i'r cyhoedd, nid gwneud rhywbeth CYN treialu.
Yn yr un modd felly byddai cyn-gofrestru'n golygu cofrestru CYN gwneud
rhywbeth arall.
Geraint
----- Original Message -----
From: "Carolyn" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, September 22, 2011 1:22 PM
Subject: ATB: ATB: pre-registration nursing
Dw i'n meddwl bod Geraint (a finnau i raddau) yn ystyried y 'cyn' yn
arddodiad (heb y cysylltnod)ac mai dyna pam mae o'n dadlau nad oes angen
treiglo h.y. fel yn 'cyn mynd'. Dw i'n meddwl bod yr enghreifftiau isod yn
ei ystyried yn rhagddodiad sy'n creu rhyw fath o ansoddair cyfansawdd ac
wedyn, wrth gwrs, mae angen treiglo. Felly, bosib bod y ddwy ffurf yn gywir
- a dibynnu ar sut mae rhywun yn dehongli ac yn clywed y 'cyn'???
Carolyn
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Berwyn Jones
Anfonwyd/Sent: 22 Medi 2011 12:52
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ATB: pre-registration nursing
Yn y Termiadur cewch chi 'cyndreialu', 'cynolchi' a 'cynosod', sydd i
gyd yn dilyn yr un patrwm. A'r un patrwm gewch chi pan ragflaenir
berf(enw) gan o^l-'.
Eithriad i'r rheol yw peidio treiglo'r 'g' yn 'cyn-geni'.(On'd yw
'eithriad' yn gategori bach handi?!)
Berwyn
2011/9/22 Carolyn <[log in to unmask]>:
> Tueddu i gytuno Geraint - alla'i ddim meddwl am enghraifft lle mae berf yn
> treiglo chwaith ond wedi dweud hynny, mae berfenwau'n treiglo ar ôl 'rhag'
> (sy'n cael ei ddefnyddio mewn ffordd debyg e.e. rhagflaenu, rhagweld. Ai
> defnyddio 'cyn' o flaen 'berf' fel hyn efo cysylltair sy'n od yn ei
hanfod?
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint
> Lovgreen
> Anfonwyd/Sent: 22 Medi 2011 10:34
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: pre-registration nursing
>
> Rwyt ti newydd enwi eithriad dy hun - 'cyn-geni'.
>
> Ga'i awgrymu mai'r rheswm am hyn ydi mai berf ydio.
>
> Oes yna unrhyw enghraifft o ferf yn treiglo'n feddal ar ol 'cyn-' ?
>
> Geraint
>
> ----- Original Message -----
> From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, September 22, 2011 10:07 AM
> Subject: Re: pre-registration nursing
>
>
> I ti, falle, ond dyw'r geiriaduron a'r gramadegau awdurdodol ddim yn
> nodi bod unrhyw eithriad i'r rheol bod treiglad meddal ar o^l 'cyn-'.
>
> Berwyn
>
> 2011/9/22 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
>> Iawn efo ansoddeiriau, ond i fi dydi 'cyn' ddim yn treiglo berfau fel
>> cofrestru (a does dim angen cysylltnod chwaith gyda berf). Mae "cyn geni"
>> yn
>> enghraifft o hyn - byddai'r ansoddair yn treiglo - 'cyn-enedigol'.
>>
>> ----- Original Message -----
>> From: Berwyn Jones
>> To: [log in to unmask]
>> Sent: Thursday, September 22, 2011 8:48 AM
>> Subject: Re: pre-registration nursing
>> Mae 'cyn-' fel rhagddodiad yn treiglo - gweler o dan 'pre-' yng
Ngeiriadur
>> yr Academi, td. 1064: pre- (prefix), rhag- + soft mutation, cyn- + soft
>> mutation, occ. blaen- + soft mutation.
>> Y ffurfiau cywir, felly, yw 'cyn-Gambraidd, cyn-Geltaidd, cyn-ganseraidd,
>> cyn-gofrestru (ond does dim treiglad yn 'cyn-geni').
>> Gramadeg y Gymraeg, td 688-9 a nodyn [b] ar td 689 yn arbennig:
>> Pan fo'n golygu 'blaenorol' neu 'gyda' ... bydd 'cyn-' yn sbarduno'r
>> treiglad meddal; y treiglad trwynol a geir ar o^l 'cyn-' cryfhaol.
>> Berwyn
>>
>> 2011/9/21 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
>>>
>>> Dwi ddim yn deall pam y byddai neb yn treiglo fama - nyrsio cyn
cofrestru
>>> ydio siwr iawn.
>>>
>>> Dydi cyn ddim yn achosi treiglad yn y cyd-destun yma, nachdi?
>>>
>>> ----- Original Message -----
>>> From: Berwyn Jones
>>> To: [log in to unmask]
>>> Sent: Wednesday, September 21, 2011 4:13 PM
>>> Subject: Re: pre-registration nursing
>>> 'cyn-gofrestru' yw'r ffurf yng Ngeiriadur Bydwragedd Ballière (td. 222).
>>> Berwyn
>>>
>>> 2011/9/21 Rhian Huws <[log in to unmask]>
>>>>
>>>> P'nawn da bawb
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Oes term cydnabyddedig ar gyfer yr uchod - methu dod o hyd i ddim ar
>>>> Term
>>>> Cymru ac am ryw reswm dyw'r Termiadur Ar-lein ddim yn gweithio.
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Wedi gwglo ac mae enghreifftiau o 'cyn-cofrestru', 'cyn-gofrestru' a
>>>> 'cyn
>>>> cofrestru'...
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Yn ddiolchgar am bob cymorth
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Rhian
>>>>
>>>>
>>
>>
>
|